Jerry The Tyke

Lleoliad : Eglwys Norwyaidd

8 Awst / 18:00 (Drysau 17:45)

Tocynnau : Am Ddim (Ond rhaid cofrestru am docyn)

 

Mae Jerry the Tyke, cymeriad cartŵn hynaf Cymru, yn cwrdd â chynulleidfaoedd newydd yn y cynhyrchiad doniol hwn gyda cherddoriaeth drydanol a chwareuir yn fyw gan Simon Lovatt. Mae drygioni Jerry a dyfeisgarwch cerddorol Mr. Lovatt yn dod at ei gilydd i greu sioe gyffrous, gyflym a gogleisiol. Fe gynhyrchwyd y sioe gan Gwmni Theatr Arad Goch, sy'n cynyrchu theatr i deuluoedd a phobl ifanc ac yn eu cyflwyno ar draws Cymru a thu hwnt gyda chydweithrediad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, British Pathé a Canolfan Ffilm Cymru.

 

Yn rhan o ANIM18: Dan arweiniad Canolfan Ffilm Cymru, Chapter a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI gyda phartneriaid prosiectau ar draws y DU
 
Cyfyngiad oed (os yn gymwys):U/3+
Cynhyrchwyd gan: Cwmni Theatr Arad Goch, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Canolfan Ffilm Cymru.