Stifyn Parri - CAU DY GEG!

Mas ar y Maes yn cyflwyno

Stifyn Parri - CAU DY GEG!

Mewn cydweithrediad â MR PRODUCER

Lleoliad : Ffresh ( Canolfan Mileniwm Cymru)

8 Awst 2018 / 20:45

Tocynnau: £10.00

Sioe Un Dyn Stifyn Parri sy’n ddi-sgript, di-flewyn ar dafod a digywilydd! Casgliad doniol a drygionus o hanesion bywyd showbiz, clecs gefn llwyfan, y West End, ser Hollywood, Y Teulu Frenhinol, y gusan gynta hoyw ar deledu cenedlaethol, a'r gorau a’r gwaetha' o’r straeon mawr y dyle fo gadw iddo fo ei hun. Brysiwch cyn iddo gael ei gagio!

Partneriaeth rhwng y gymuned LHDT, Stonewall Cymru a’r Eisteddfod