Gellir cynnig gwobr ar ran unigolyn, teulu, cymdeithas, busnes neu er cof am rai arbennig.
Mae cyfrannu gwobr yn ffordd hynod effeithiol i gefnogi’r Eisteddfod yn ogystal â’ch pwyllgor apêl lleol, gyda gwobrau’n amrywio o £15 i £5,000!
Wrth roi gwobr, bydd cyfanswm y rhodd yn mynd yn erbyn targed ardal y rhoddwr neu i’r gronfa gyffredinol, ac os yn gymwys i gwblhau datganiad Rhodd Gymorth, bydd yr Eisteddfod yn gallu hawlio 25c yn ychwanegol am bob £1 a roddir.
Cwblhewch y ffurflen isod yn dangos pa adran/nau sy’n mynd â’ch bryd, ac fe anfonwn restr o’r gwobrau sydd ar gael atoch. Neu os hoffech drafod y mater gyda ni, ffoniwch Alwyn Roberts ar 0845 4090 400 neu ebostiwch alwyn@eisteddfod.org.uk.
Ceir gwobrau ariannol yn yr adrannau canlynol: