Eisteddfod Genedlaethol yn estyn Dwylo Dros y Môr

20 Hydref 2020

Gyda thros 125,000 o bobl yn Awstralia yn sôn eu bod yn dod o gefndir Cymreig, mae’n naturiol bod diddordeb mawr yn ein traddodiadau a’n treftadaeth ar hyd a lled y wlad.  Gyda hyn mewn golwg, ac fel ffordd o godi proffil a hybu diwylliant Cymraeg yn rhyngwladol, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi datblygu partneriaeth newydd gyda’r Ŵyl Werin Geltaidd Genedlaethol yn Awstralia.

Ac mae’r bartneriaeth hon yn cael ei lansio drwy gywaith hyfryd rhwng un o gerddorion gwerin blaenaf Cymru, Angharad Jenkins (Calan, DnA, Pendevig) a Jenny M Thomas o’r band, Bush Gothic, sy’n ail-ddehongli caneuon gwerin fwyaf tywyll ac anghyfarwydd Awstralia, ynghyd ag ail-weithio caneuon cyfarwydd sydd eto’n gerddorol an-ffasiynol.

Bu Jenny ac Angharad yn cydweithio mewn pegynau gwahanol o’r byd yn ystod y cyfnod clo, gan rannu profiadau a chaneuon, wrth i Jenny ddysgu am ein cerddoriaeth ni yma yng Nghymru.  Bu’r ddwy yn gweithio ar ddwy gân i gychwyn, I Fyw i Fôd, a Sosban Fach. 

Meddai Angharad, “Dros y misoedd diwethaf, rydw i a Jenny wedi bod yn dysgu, darganfod a rhannu straeon am ein gwledydd, ein hiaith a’n diwylliant.  Wrth weithio ar syniadau, roedd rhaid i ni ddelio gyda’r gwahaniaeth amser, fy nghyfyngiadau technegol personol, ac wrth gwrs, y rheol iaith.  Ry’n ni wedi treulio oriau yn trafod a rhannu syniadau ar Zoom, ac mae’n wych bod y caneuon yn cael eu cyhoeddi heddiw.”

Ychwanegodd Jenny, “Ar y cychwyn roedd y prosiect yn ymddangos yn amhosibl, ond roedd yn anhygoel.  Doedd dim ffordd o wybod sut yr oedden ni’n mynd i gyflawni’r peth, ac roedd gennym ni gannoedd o syniadau gwahanol.  Roedd fy nghalon yn neidio gyda’r syniad o gydweithio gyda fy nghyd-gerddorion, Chris a Dan, eto.  Ry’n ni’n teimlo balchder gwirioneddol heddiw wrth i ni ryddhau’r caneuon ar draws y byd.”

Gyda theulu Jenny’n hanu o Lanelli, roedd hi wrth ei bodd yn cael cyfle i weithio ar gân gyda chysylltiad mor eiconig gyda’r dref â Sosban Fach, ac meddai Angharad, “Roedd e’n swnio’n naturiol i ni gyflwyno’r gân i’r grŵp.  Efallai nad yw hi’n ddewis gwreiddiol iawn i gynulleidfa’r Eisteddfod, ond ro’n i’n ysu i weld sut byddai Bush Gothic yn trefnu’r gerddoriaeth ac yn ymdrin â’r gân.”

Bydd y caneuon yn cael eu rhyddhau ar Apple Music, Amazon, Spotify, Pandora, Deezer a Bandcamp, gyda phremiere byw ar sianel YouTube Bush Gothic am 11:00, ddydd Mawrth, 20 Hydref.

Cywaith Bush Gothic ac Angharad yw’r cyntaf mewn cyfres o brosiectau mae’r Eisteddfod a’r Ŵyl Werin Geltaidd Genedlaethol yn gobeithio’u cyflawni dros y blynyddoedd nesaf, ac meddai Trefnydd a Chyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis, “Mae’r bartneriaeth hon yn rhan o’n strategaeth ryngwladol i sicrhau bod ein hiaith a’n diwylliant yn cael ei gydnabod ymysg y gorau at draws y byd.  Ry’n ni wedi bod yn awyddus i ddatblygu prosiect sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth draddodiadol mewn ffordd cwbl amgen ers tro byd, ac roedd y cyfnod clo yn gyfle perffaith i ni fynd ati i ddod ag Angharad a Jenny ynghyd, ond hynny o bell, wrth gwrs.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n datblygu cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer artistiaid sy’n arfer perfformio gyda ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Ry’n ni am i bawb weld safon y cynnwys a’r cynnyrch sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth bwysig yma gyda’r Ŵyl Werin Geltaidd Genedlaethol yn Awstralia yn gyfle gwych i wneud hyn, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weithio ar nifer o brosiectau eraill ar y cyd gyda Una a’r tîm yn y dyfodol.”

Mae’r Ŵyl Werin Geltaidd Genedlaethol wedi bod yn creu cysylltiadau gyda gwledydd Celtaidd ers tro byd.  Y bwriad yw creu cyfleoedd i artistiaid Celtaidd berfformio yn Awstralia, gan greu marchnad newydd ar gyfer eu cerddoriaeth, ac er bod hwn yn brosiect digidol ar y funud, mae’r cyfarwyddwr, Una McAlinden, yn hapus iawn gyda’r canlyniad.

Dywed, “Mae hon yn bartneriaeth mor awthentig, sy’n dod ag amrywiaeth gyfoethog, creadigrwydd, angerdd, ac yn fwyaf pwysig, cysylltiad dwfn gyda diwylliant, ynghyd.  Yr union beth sydd ei angen i’n hysbrydoli ni a’n bodloni ni yn ystod y cyfnod anodd hwn ac ymhell i’r dyfodol.

“Ry’n ni wedi mwynhau gweithio gyda’r artistiaid a chyda’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’n wych ein bod ni’n rhannu’r un weledigaeth am bwysigrwydd partneriaethau er mwyn cysylltu diwylliannau a chynyddu cydweithio ar draws y byd.  Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwarchod ein traddodiadau ac yn rhoi cyfle i artistiaid heddiw, ynghyd â chenedlaethau’r dyfodol roi’u stamp eu hunain ar ein diwylliant.”

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod Genedlaethol, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac i ddysgu mwy am yr Ŵyl Werin Geltaidd Genedlaethol, ewch i www.nationalcelticfestival.com.