Ceredigion 2020 wedi'i gohirio am flwyddyn.
Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod Prifwyl Ceredigion 2020 wedi’i gohirio am flwyddyn
Cymerwyd y penderfyniad anodd gan Fwrdd Rheoli’r sefydliad dros y Sul yn dilyn nifer o drafodaethau.
Y bwriad yw symud Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Awst 2022 a chynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn 2023. Yn yr un modd, mae Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi’i gohirio.
Meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir, “Yn naturiol, fe fydd ein cefnogwyr yn siomedig, ond rwy’n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir a synhwyrol i’r Bwrdd Rheoli’i gymryd.
“Mae’n bwysig nodi mai gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rydym yn ei wneud, ac nid ei chanslo.”
Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Betsan Moses, “Mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn anodd i’r Eisteddfod, ac fe fyddwn yn ddibynnol ar ewyllys da ein cefnogwyr a’n ffrindiau’n fwy nag erioed.
“Rydym yn benderfynol o barhau i weithio er budd y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac yn mawr obeithio y bydd modd ail-gychwyn ar y gwaith cymunedol yng Ngheredigion ac ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon cyn gynted â phosibl.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gychwyn y gwaith ar lawr gwlad ar hyd Rhondda Cynon Taf yn fuan, ac yn ddiolchgar iawn i’n holl wirfoddolwyr ymhobman am eu gwaith dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf.
“Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a’n cymunedau ar draws y wlad a chadw’n ddiogel ar hyn o bryd. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Dregaron yn haf 2021, gyda gŵyl a rhaglen arbennig iawn.”
Mae manylion ymarferol y penderfyniad hwn wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.