Isod ceir gwaith celf brand Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, ynghyd â chanllawiau ar gyfer ei ddefnyddio
Mae modd defnyddio'r brand lliwgar ar gyfer gweithgareddau lleol, neu gellir defnyddio'r brand cenedlaethol a ddefnyddir ar gyhoeddiadau'r Eisteddfod.
Mae'r rhain yn gopïau ansawdd uchel o'r logos, a dylid defnyddio'r rhain bob tro yn hytrach na thorri a phastio logo oddi ar boster / ddeunyddiau eraill.
Os nad ydych yn gallu llwytho'r lluniau, gallwch lawrlwytho'r ffeiliau PDF sydd ynghlwm.
Os ydych chi eisiau copi .eps o'r naill logo neu'r llall, cysylltwch â'r swyddfa ar 0845 4090 400 neu ebostiwch gwyb@eisteddfod.org.uk.