Mis yn unig sydd i fynd tan 1 Rhagfyr, sef y dyddiad pan fo’n rhaid i geisiadau ar gyfer y Fedal Ryddiaith gael eu cyflwyno er mwyn eu hanfon at y beirniaid.
Beirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith 2020 yw enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, eleni, Rhiannon Ifans, Elwyn Jones ac Elfyn Pritchard, a thema’r gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau yw Clymau. Cyflwynir y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, “Mae’r Fedal Ryddiaith yn un o gystadlaethau pwysicaf yr Eisteddfod, ac wedi cyfrannu’n sylweddol at gynnyrch llenyddol Cymru dros y blynyddoedd. Gobeithio bydd hyn yn parhau ymhell i’r dyfodol, ac y byddwn yn llwyddo i ddenu nifer fawr o gyfrolau o safon uchel unwaith eto eleni.
“Nid ar chwarae bach mae rhywun yn creu cyfrol o lenyddiaeth arobryn heb fod yn fwy na 40,000 o eiriau, ac rydym yn gwerthfawrogi pob un o’r ceisiadau sy’n dod i law. Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais eleni, cofiwch fod y dyddiad cau yn prysur agosáu ac nad oes modd derbyn ceisiadau hwyr ar gyfer y gystadleuaeth. Felly, ymlaen i orffen y gwaith a’i anfon atom cyn iddi fynd yn ben set!
“Pob hwyl i bawb sy’n bwriadu cystadlu eleni, a gobeithio y gwelwn ni deilyngdod ar lwyfan y Pafiliwn yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf.”
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst. Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.