Byddwch yn ofalus wrth yfed alcohol. Gall coctels, gor-yfed a thywydd poeth fod yn angheuol. Mae’n bwysig adnabod eich terfynau, a rhai eich ffrindiau.
Mae'r Eisteddfod yn gweithredu polisi 'Her 25' ar gyfer gwerthu alcohol. Os ydych yn ddigon ffodus i edrych o dan 25, ni chewch brynu alcohol heb brofi eich bod dros 18 oed neu’n gwisgo band garddwrn priodol ym Maes B
Ni chewch ddod ag alcohol i Faes yr Eisteddfod nac i Faes B. Bydd gan yr Eisteddfod yr hawl i atafaelu a gwaredu unrhyw alcohol yn eich meddiant wrth fynd i mewn i’r Maes. Mae bariau trwyddedig llawn ar y Maes ac ym Maes B.
Caniateir dod ag alcohol ar gyfer defnydd personol i'w yfed yn y meysydd gwersylla a charafan yn unig.
Am resymau iechyd a diogelwch ni chaniateir poteli gwydr ar y Maes, Maes B na’r Meysydd Pebyll.
Cofiwch yfed digon o ddŵr a pheidiwch ag yfed a gyrru.
Rydym yn gweithredu a gorfodi polisi Her 25 llym. Os nad oes modd dangos ID dilys, byddwn yn gofyn i chi adael y safle a dychwelyd gyda’ch ID.
Os ydych yn ddigon ffodus i edrych yn 25 neu’n iau, dewch ag ID derbyniol gyda chi. Mae ID derbyniol yn cynnwys:
- Trwydded yrru llawn neu drwydded yrru dros dro cyfredol, gyda llun.
- Pasbort dilys (dim llungopi). NI dderbynnir unrhyw basbort nad yw’n gyfredol.
- Cerdyn Cynllun Safonau Prawf Oedran (sy’n dangos hologram PASS).