Premier: Fideo newydd Al Lewis: Symud mlaen

29 Ionawr 2020

Ar ôl i Jo Whiley chwarae’r trac ar Radio 2 neithiwr, dyma gyfle cyntaf i weld y fideo gerddoriaeth i sengl newydd Al Lewis ’Symud Mlaen’. Y sengl ddiweddaraf oddi ar ei albym newydd - Te yn y Grug.
 

Te yn y Grug' yw albwm gysyniadol newydd y cerddor a’r canwr adnabyddus Al Lewis – cafodd ei ryddhau ar finyl ac yn ddigidol ar 21ain Chwefror 2020. 


Ysbrydolwyd y geiriau (â ysgrifennwyd gan Karen Owen a Cefin Roberts) gan y gyfrol o straeon (o’r un enw) gan yr awdures enwog Dr Kate Roberts - oedd yn dathlu 60 mlynedd ers cyhoeddi 'Te yn Grug' gyntaf yn 1959. 


Cafodd caneuon ‘Te yn y Grug’ eu perfformio gyntaf fel rhan o'r sioe gerdd hynod lwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Gwerthwyd pob tocyn i’r sioe yma o fewn ychydig oriau - yn eu gwneud hi y sioe a werthodd allan y cyflyma' yn hanes yr Eisteddfod. 


Bydd Al yn dod â‘r caneuon yma i’r llwyfan yng Ngwanwyn 2020.
Wedi rhannu mewn 2 rhan: Bydd Al yn ystod y rhan gyntaf yn ymweld â'i gatalog drwy berfformio set acwstig unigol unigryw. Yn yr ail ran bydd cerddorion eraill a chôr lleol yn ymuno ag Al i berfformio'r albwm Te yn y Grug yn ei chyfanrwydd. 
Cafodd yr albwm ei recordio dros gyfnod o 5 diwrnod yn stiwdio Sain yng Ngogledd Cymru yn mis Awst 2019 gydag amrywiaeth o artistiaid talentog gan gynnwys hefyd aelodau côr yr Eisteddfod. 

DYDDIADAU BYW 

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - 21.2.20
Galeri, Caernarfon - 27.2.20
Theatr Mwldan, Aberteifi - 6.3.20 
Neuadd Dwyfor, Pwllheli - 27.3.20 
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - 28.3.20 

I archebu tocynnau ewch i : www.allewismusic.com