Isod ceir cyngor ar gyfer y rheini sydd wedi ymgeisio am un o swyddogaethau'r Orsedd
Rydym wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i ohirio cynnal Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion am flwyddyn.
Wrth gwrs, mae goblygiadau hefyd i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a chynhelir yr Eisteddfod honno flwyddyn yn ddiweddarach yn 2022.
Yn ddiweddar, mae nifer o bobl wedi ymgeisio am un o swyddogaethau'r Orsedd, ac mae'n rhaid rhoi stop ar y broses ddewis ar hyn o bryd. Bydd Bwrdd yr Orsedd yn trafod y camau nesaf. Fe all hyn gymryd peth amser oherwydd y cyfyngiadau sydd ar bawb.
Mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn anodd i’r Eisteddfod, ac fe fyddwn yn ddibynnol ar ewyllys da ein cefnogwyr a’n ffrindiau yn fwy nag erioed. Mae hyn yn ergyd i ni fel i gynifer o gyrff a sefydliadau eraill, ac fe fydd cyfle i drafod effaith hyn oll ar ddiwylliant a’r celfyddydau yng Nghymru yn dilyn y cyfnod anodd hwn.
Cadwch yn ddiogel a byddwn mewn cysylltiad cyn bo hir.