Sylwadau'r Archdderwydd Newydd

29 Mehefin 2019

Sylwadau’r Archdderwydd newydd yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, Aberteifi, 29 Mehefin 2019

Bore da.

Diolch ichi am gael fy nerbyn yn Archdderwydd Cymru yma yn Aberteifi. Y flwyddyn nesaf, Tregaron – am wythnos – fydd prifddinas Cymru.

Mi fydd pob ffordd yn mynd i Dregaron... i Dregaron, Ceredigion. O nabod y Cardis yn eithaf da, mi fentra i y bydd y paratoadau yn hael, yn drylwyr ac yn gynnes. Ein braint a'n pleser ni oll fydd cael bod ar bob ffordd sy'n mynd i Dregaron.

Mae cysgod hen a hir castell Aberteifi arnon ni heddiw, wrth gwrs. Rydan ni'n cofio'n hanes. Hwn oedd castell carreg cyntaf y Cymry. Roedd angen meini yn ein muriau ni i wrthsefyll y Normaniaid barus, hunanol, gormesol. Tirladron oedd y rheiny. Dwi'n siŵr nad ydach chi'n synnu o glywed bod canran uchel o hen deuluoedd y Normaniaid yn aelodau breintiedig yn San Steffan o hyd, yn yr Uchel Lysoedd, yn y banciau ac yn y cwmnïau elw mawr yn Llundain.

Ie, castell i amddiffyn y Cymry oedd un Aberteifi. Mi ddweda i hyn, mae angen castell cryfach arnon ni'r dyddiau yma. Ond bedair blynedd ar ôl dechrau adeiladu ei gastell, dyma'r Arglwydd Rhys yn cyhoeddi'i Eisteddfod yn y dre hon. Flwyddyn a diwrnod cyn eisteddfod fawr hanesyddol y Nadolig 1176, dyma air i bob talaith yng Nghymru, ac i gyfeillion inni hefyd yn Nulyn, Cernyw, Cumbria, yr Alban a gwledydd eraill yn Ewrop efallai, yn hysbysu y byddai gŵyl ryfeddol yn llawn beirdd a cherddorion yma, ac y byddai croeso yma hefyd. O fewn y muriau caerog, dan fygythiad gelynion pwerus, gan gofio hynny i gyd - y gair mawr oedd croeso. Hwnnw oedd gair mawr Ashok Ahir i ymwelwyr o bob gwlad a phob hil yn Steddfod y Bae'r llynedd hefyd. Dyna welson ni yn Steddfod yr Urdd hefyd.

Mi wn i fod cofio yn agos at ein calonnau ni. Mae hynny'n rhan o'n hanes ni, yn dangos y llwybr i'r dyfodol inni. Mae wal Cofio Tryweryn yma yng Ngheredigion wedi gwneud dau beth inni yn ddiweddar – mae wedi dangos fod bygythiad y bwystfil sydd am ddileu'n cof ni yn fyw ac yn afiach o hyd. Mae hefyd wedi dangos fod gennon ni bobl ifanc y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw i ailgodi waliau ac ailbeintio'r geiriau. Maen nhw'n gwybod be ydi gwerth y cof, ac yn gwybod bod yn rhaid i'r cof ysgogi gweithredoedd. Rhaid inni wybod ein hanes a rhaid inni hefyd – â'n dwylo ein hunain – lunio ein dyfodol. Mae'r cof yn ein harwain at y cyfrifoldeb hwnnw.

Mae 'pob ffordd yn mynd i Dregaron' ddwedais i ar y dechrau. Y dywediad gwreiddiol wrth gwrs ydi fod 'pob ffordd yn mynd i Lundain'. Falla y cawn ni wyth noson o Dregaron ond rydan ni wedi cael dros wyth canrif o Lundain.

Llundain yr atyniadau mawr, y theatrau a'r amgueddfeydd - mae VisitBritain yn gwneud yn saff fod y byd yn gwybod am y rhain. Ond dim ond 2% o ymwelwyr tramor Prydain ddaw i Gymru. Faint o'r rheiny tybed gaiff brofi croeso cynnes Ceredigion? Mi gaewyd pedwar ar ddeg o ganolfannau croeso yng Nghymru ddeunaw mis yn ôl. Dim pres. Na 'dydi pŵer Llundain na phres Llundain ddim yno er ein mwyn ni.

Llundain y colegau, y cerddorfeydd, y cyngherddau. Yma yng Ngheredigion - am fod Llundain wedi tocio pwrs cyhoeddus Cymru - rydan ni'n gorfod ymladd, ymladd â'n deg ewin, dros adnoddau cerdd i'n hieuenctid ni. Mae hyn yn wir drwy Gymru. Mae biliwn a mwy o bunnoedd wedi diflannu o gyllideb addysg Cymru ers 2010. Dydi Llundain ddim yn gweld gwerth mewn datblygu ieuenctid creadigol, hyderus, hapus yng Nghymru.

Dowch inni edrych i gyfeiriad arall, at wlad arall. Ro'n i yn Iwerddon yn ddiweddar ar yr adeg pan oedd Prif Weinidog y wlad yn dathlu deddfwriaeth newydd a chyllideb newydd oedd yn golygu y bydd pob plentyn yno yn cael cynnig dysgu trin offeryn, datblygu sgiliau cerddorol, artistig, llenyddol o hyn ymlaen. Pob un plentyn, dan nawdd y wlad. A dyna o ble y daeth y tri ansoddair yna – bydd pob plentyn yn Iwerddon yn cael cyfle i feithrin doniau all eu gwneud nhw'n greadigol, hyderus a hapus. Pryd glywson ni am gwricwlwm yng Nghymru sy'n anelu at wneud pobl yn hapus! Nid ffordd Llundain ydi ffordd Iwerddon wrth gwrs. Dan ni'n byw mewn gwladwriaeth lle mae 40% o blant yn methu fforddio hyfforddiant cerddorol neu gelfyddydol ychwanegol. Dan ni yng Ngheredigion ac yng Nghymru yn byw mewn gwlad lle mae'r ifanc yn colli cyfle.

Hawdd torri calon heddiw. Anodd disgwyl synnwyr cyffredin, tegwch na pharch na hyd yn oed ymddygiad cwrtais at ein diwylliant ni, at ein pobl ni ac at ein gwlad ni. Dan ni'n byw dan fawd Prydain anghyfartal. Mae'r Normaniaid mewn grym o hyd. Ond mae pŵer arall ar gerdded ar hyd ffyrdd Cymru'r dyddiau hyn. Mae pobl wedi cael y nerth i weld nad ffordd Llundain ydi'n ffordd ninnau chwaith. A dyma'r nerth, dwi'n hyderus o hyn, fydd yn sicrhau y bydd pob ffordd maes o law yn mynd i Dregaron, ac i Lanrwst, ac i'r Bala, Pwllheli, Llandeilo, Pontypridd a phob tref yng Nghymru. Nid am wythnos ond am byth.

Gyda hynny yn ein calonnau, gadewch inni fynd yn ein blaenau yn obeithiol a llawen am Dregaron y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr ichi.