Wrth iddi guradu’r rhifyn diweddaraf o ‘zine Merched yn Gwneud Miwsig, penderfynodd Heledd Watkins y byddai’n hoffi datblygu’r prosiect ymhellach a chreu cerddoriaeth i gyd-fynd gyda’r cylchgrawn
Gofynnodd Heledd, sy’n aelod o’r band HMS Morris, i Bethan Mai (Rogue Jones) ac enillydd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, Ani Glass dderbyn sialens i ysgrifennu cân ar y cyd o bell, a’r canlyniad yw ‘Syniad o Amser‘ - cân grŵp newydd sbon o’r enw Kathod, i’w chlywed am y tro cyntaf nos Fercher, 25 Tachwedd ar sioe Lisa Gwilym, ar Radio Cymru. Bydd y gân hefyd yn cael ei rhyddhau ar Bandcamp ar 4 Rhagfyr (https://kathod.bandcamp.com), gyda’r arian yn mynd i Gymorth i Ferched Cymru.
Dywedodd Heledd Watkins, “Dwi wastad wedi bod eisiau cydweithio gyda merched eraill o’r SRG, ond wedi bod yn rhy nerfus i ofyn! Ond, roedd y cylchgrawn yma a holl ddiflastod y cyfnod clo yn gyfle perffaith i fynd amdani. Dwi wedi edmygu gwaith a thalent Bethan ac Ani ers blynyddoedd, ac wedi’u gweld nhw’n perfformio’n fyw droeon, ac mae hi wedi bod yn fraint anferthol i gael cydweithio efo nhw.
“Felly dyma rownd 1 Kathod, cân wedi’i hysgrifennu gen i a Bethan ac wedi’i chynhyrchu a’i chymysgu gan Ani Glass. Dwi mor gyffrous i chi glywed ‘Syniad o Amser’!”
Ychwanegodd Bethan Mai, “Mae wedi bod yn gyffrous iawn cael cyfle i greu rhywbeth fel criw o fenywod. Yn wreiddiol, roedden ni wedi seilio’r syniad ar Atomic Kitten, ond wrth i’r syniad ddatblygu, byddai’n grêt petai’r prosiect yn rywbeth sy’n gallu cario ‘mlaen.
“Dy’n ni ddim eisiau i Kathod gael ei ddiffinio gan y lein-yp yma, ond yn hytrach bod modd iddo fe esblygu, gydag aelodau yn gallu picio mewn a mas, yn adlewyrchu gwahanol dalentau ac argaeledd pawb. Ry’n ni wir eisiau cadw’r syniad yn ffresh a gwneud yn siwr ei fod e’n grymuso merched o’r cychwyn.”
Mae’r ‘zine Merched yn Gwneud Miwsig, sydd wedi ysbrydoli prosiect Kathod, ar gael i’w ddarllen a’i lawr lwytho o issu.com/mygm ac ar Instagram @merchedmiwsig nawr.
Gwaith celf: Cadi Dafydd Jones