Twm Elias yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2019

8 Awst 2019

Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i Twm Elias, Nebo, Gwynedd, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Cyhoeddwyd hyn yng nghyfarfod diweddar Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth.

‘Does neb tebyg i Twm Elias.  Mae’i gyfraniad i wyddoniaeth, ac i fyd natur yn arbennig, yn rhyfeddol, a’i asbri a’i frwdfrydedd wrth egluro’r manylyn lleiaf am ei bwnc yn gwbl heintus.

Yn wreiddiol o Glynnog Fawr, graddiodd mewn Llysieueg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor cyn dilyn cwrs ôl-radd yn yr un brifysgol, yn edrych ar agweddau ffisiolegol o dyfiant gweiriau.

Yna, symudodd i Brifysgol Aberystwyth lle bu’n ymchwilio i’r amrywiaeth naturiol mewn gaeafgaledwch ymysg gweiriau a meillion o bob rhan o Gymru, nes ei benodi i swydd wrth fodd ei galon, fel darlithydd maes ym Mhlas Tan y Bwlch, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri.  Bu’n gweithio yno fel uwch ddarlithydd nes iddo ymddeol yn 2014.

Byddai maes natur a gwyddoniaeth yng Nghymru yn llawer tlotach heb arbenigedd a gwaith Twm Elias.  Gyda’i weledigaeth eang a’i weithgarwch diflino, gwnaeth gyfraniad allweddol i sefydlu nifer o gymdeithasau a gwefannau pwysig. 

Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd, ac mae’n parhau yn ysgifennydd Cymdeithas Llafar Gwlad hyd heddiw, bron i ddeugain mlynedd ers sefydlu’r gymdeithas.  Mae’i gyfraniad i gymdeithasau fel y Gymdeithas Gwaith Maes ar gyfer ysgolion, a Phartneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri, yn hynod werthfawr ac yn hyrwyddo diddordeb ymarferol ymysg y cyhoedd mewn bioamrywiaeth. 

Yn wir, mae’i gyfraniad wedi bod yn gwbl allweddol i ffyniant a datblygiad nifer fawr o gymdeithasau pwysig yma yng Nghymru.

Mae’n ddarlledwr heb ei ail; ei wybodaeth ryfeddol a’i gynhesrwydd wrth y meicroffon neu ar gamera wedi diddanu cynulleidfaoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg am flynyddoedd lawer.  Yn un o hoelion wyth y rhaglen, Galwad Cynnar, mae’n llwyddo i ateb pob cwestiwn neu sylw a deflir ato gan ddefnyddio termau Cymraeg graenus a naturiol.

Ac mae hefyd yn awdur erthyglau bywiog mewn cylchgronau fel Llafar Gwlad, yn ogystal ag amryw o gyfrolau, gyda chwe chyfrol o Blodau Cymru, a’r pedair cyfrol o Enwau Creaduriaid a Phlanhigion, a gyd-olygwyd gyda’r arbenigwr Duncan Brown, ymysg y cyhoeddiadau pwysicaf erioed ym myd natur yma yng Nghymru.

‘Does dim dwywaith fod cyfraniad Twm Elias i faes bywydeg a natur yng Nghymru wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd, ac mae’n llawn haeddu cael ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol eleni drwy dderbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg.