A glywsoch chi erioed am Eliffant Tregaron?
Mae trigolion lleol yn gwybod peth o hanes yr eliffant ond nid y cyfan… Ac mae’n hen bryd rhoi diwedd ar hyn drwy gyflwyno stori Eliffant Tregaron i bawb!
Ond, beth yw’r stori? Beth oedd enw’r eliffant ddaeth i’r dref? Beth ddigwyddodd iddo fo? Oedd o’n hoffi Tregaron? ‘Does neb yn siŵr iawn… Ond ry’n ni eisiau gwybod popeth amdano a dod i’w adnabod yn iawn!
Hoffech chi ein helpu ni i greu gweddill y stori? Ydych chi a’ch teulu yn llawn o syniadau a straeon? Ydych chi’n gallu dychmygu beth yw hanes yr eliffant? Os felly, mae Elgan Rhys ac Osian Meilir angen eich cymorth! Maen nhw am lenwi’r bylchau i gyd drwy gymryd y chwedl, ei datblygu a chreu sioe wreiddiol newydd sbon gyda ac ar gyfer y teulu cyfan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y flwyddyn nesaf.
Meddai Elgan, “Mae stori Eliffant Tregaron yn rhan bwysig o hanes yr ardal, ac mae’n sail wych ar gyfer sioe i apelio i’r teulu i gyd. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw i glywed syniadau dychmygys am yr eliffant er mwyn ein helpu i fynd ati i ddatblygu’r sioe. Dw i’n grediniol fod pawb efo’r gallu i fod yn greadigol, felly blant (ac oedolion!) dewch â’ch syniadau rhyfeddol a hynod atom ni, ry’n ni methu disgwyl i’ch cwrdd.”
Ychwanegodd Meilir, “Gan mod i wedi fy magu yng Ngheredigion, rydw i’n ymwybodol iawn o hanes Eliffant Tregaron ers erioed, ac mae cael cyfle i greu stori a sioe o amgylch y chwedl yn wych. Mae’r ffaith bod yr Eisteddfod wedi’i gohirio blwyddyn yma’n rhoi’r cyfle i ni gasglu straeon a syniadau a rhoi stamp teuluoedd yr ardal a Chymru gyfan ar y sioe.”
Os hoffai eich teulu chi gyfrannu i’r prosiect, cysylltwch! Ewch i’n gwefan, www.eisteddfod.cymru/amgen-eliffant am fanylion ar sut i gymryd rhan mewn sesiwn Zoom arbennig i rannu syniadau. Gallwch hefyd lawr lwytho taflen stori o’r wefan a gallwch chi lenwi’r bylchau yn y stori gyda’ch syniadau chi a’i dychwelyd atom Pwy â ŵyr, efallai bydd eich syniad chi yn ymddangos yn y sioe'r flwyddyn nesaf!
Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogaeth drwy grant i wireddu’r prosiect hwn.