Carnifal y Môr

Profwch gyffro’r carnifal lliwgar a cherddoriaeth fywiog i ddathlu’r bobol o bedwar ban byd a greoedd ein prifddinas. 

Dilynwch yr orymdaith o Ganolfan y Mileniwm Cymru i wylio sioe ddŵr fawreddog uwch y Bae. Yn dilyn gweithgaredd creadigol dan arweiniad yr artist Megan Broadmeadow a chyfraniad cerddorol gan y cyfansoddwr Gruff Rhys, mewn cydweithrediad â Charnifal Butetown. Penllanw’r arddangosfa arbennig yw tafluniadau o ddelweddau symudol ar sgrîn ddŵr enfawr. Digwyddiad Y Lle Celf.
 
Nos Sadwrn, 4 Awst, 22:30 : Ymunwch â’r orymdaith liwgar i weld sioe ddŵr fawreddog yn y Bae i ddathlu’r bobol o bedwar ban byd a greodd ein prifddinas. 
 
Sul 5 Awst – Gwener 10 Awst 22.30 : Sioe ddŵr fawreddog yn y Bae i ddathlu’r bobol o bedwar ban byd a greodd ein prifddinas. Ymunwch â hwyl y carnifal.
 
Mae'r digwyddiad hwn am ddim - Y Lle Celf yn dathlu Blwyddyn y Môr
 
Profwch hwyl #CarnifalyMôr