Pentref Bwyd

Mae digonedd o ddewis o fwyd a diod yn yr Eisteddfod. Cewch bob math o fwydydd stryd yn y Pentref Bwyd, gyda rhywbeth i bawb, o fwyd fegan i brydau Indiaidd, pizzas a llawer mwy.

Mae Bar Syched yn gweini cwrw, seidr a gwinoedd Cymreig, ac wedi'i leoli yn agos at y Ty Gwerin, ac mae bariau yn Roald Dahl Plass, felly gallwch fwynhau diod wrth wrando ar y perfformiadau. Bydd Bar Gin yn dod am y tro cyntaf eleni ac yn gweini gwirodydd Cymreig. Lleolir y Bar Gin yn yr ardal drws nesaf i'r Senedd.

Noddir gan Castell Howell