Pensaernïaeth yng Nghymru
Yn Nhregaron cynhelir arddangosfa o bensaernïaeth ddiweddar yng Nghymru.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth benseiri neu grwpiau o benseiri i ddangos adeiladau gyda dyddiad eu cwblhau ymarferol rhwng
1 Ionawr 2017 a 1 Mawrth 2020.
Ystyrir y ceisiadau, sydd i’w cynnwys yn yr arddangosfa ar gyfer y ddwy wobr ganlynol:
Y Fedal Aur am Bensaernïaeth (gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru)
Dyfernir i’r pensaer neu benseiri sy’n gyfrifol am adeilad neu grŵp o adeiladau a gymeradwywyd i’r Eisteddfod fel y gorau.
Plac Teilyngdod
Er mwyn anrhydeddu prosiectau llai o safon uchel, gwahoddir penseiri i gyflwyno prosiectau newydd neu rai a adnewyddwyd.
Detholir y ceisiadau gan Niall Maxwell (Rural Office for Architecture, Caerfyrddin) a Zoë Quick (Pensaer ac Addysgwr, Llanidloes).
Gwireddir mewn partneriaeth â Chomisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru.
Ysgoloriaeth Bensaernïaeth £1500 (gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru)
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru ac fe’I dyfernir i'r ymgeisydd mwyaf addawol
er mwyn ei alluogi i ehangu ei ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol.
Detholwyr: Ffion Lanchbury (Rio Architects) a Gethin Wyn Jones (Ainsley Gommon Architects).