Yr awen yn dychwelyd i Fardd y Goron eleni

7 Awst 2017

‘Doedd Gwion Hallam, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni, prin wedi barddoni ers geni’i blentyn cyntaf bedair blynedd ar ddeg yn ôl.  

Ond yn ddiweddar bu’n gweithio fel bardd gyda rhai â dementia, ac fe newidiodd hyn bopeth.  Bu’r gwaith hwn, y cyfle i annog trigolion mewn cartrefi dementia i farddoni, a’r fraint o’u hadnabod a gwrando ar odlau eu bywydau’n ddigon i atgyfodi’r ysfa ynddo i farddoni, a heddiw, fe’i hanrhydeddwyd ar lwyfan y Pafiliwn.

Cyflwynwyd y Goron am bryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau dan y teitl Trwy Ddrych. Y beirniaid oedd M Wynn Thomas, Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams, ac wrth draddodi’r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn, meddai M Wynn Thomas ar ran ei gyd-feirniaid, “‘Fe rydw inne hefyd yn ei chasáu hi,’ medde’r bardd mawr Americanaidd Marianne Moore am farddoniaeth:  ‘fe rydw inne hefyd yn ei chasáu hi/ mae pethe pwysicach o lawer na ffidlan fel hyn.’  Hawdd iawn cytuno, credwch chi fi, ar ôl gorfod darllen tri deg a phedair o bryddestau mewn byr amser.

Trwy ddrych – am chwip o destun,’ medde fy nghyd-feirniad Gwynne Williams. Ac wedyn mae’n mynd yn ei flaen i bwysleisio’n fachog ‘mai am bryddest y gofynnir eleni ac nid am gasgliad o gerddi, nac am ddilyniant ac yn siwr ddigon ddim am stori fer neu bregeth. Ac ysywaeth cafwyd mwy na’i siâr o’r rhain ymhlith y drychau a osodwyd o’n blaenau.’

“Ond ar ôl i Marianne Moore gychwyn drwy sgubo barddoniaeth i’r bin sbwriel agosa, mae hi wedyn yn prysuro yn ei blaen yn ei cherdd i ychwanegu fod barddoniaeth ar ei gorau hefyd yn medru cynnig inni ryw gip dilys, anhepgor, cwbl unigryw ar ein bywydau meidriol.  Ac mae’r tri ohonon ni’n llawen o gytûn inni gael eleni nid un gerdd, ond nifer anarferol o gerddi, a lwyddodd i gyrraedd y safon aruchel hon.

Gydag wyth ymgais yn y Dosbarth Cyntaf, roedd y gystadleuaeth eleni’n safonol iawn, a dywed y beirniad, “fod safon gyffredinol cystadleuaeth y goron eleni yn rhagori ar yr hyn a gafwyd yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, wn i ddim.”

A ‘doedd dod i benderfyniad unfrydol ddim yn hawdd chwaith yn ôl y beirniad, a dywed, “Dyna chi’n cyfyng gyngor gwych ni’n tri felly.  Cymaint o bryddestau rhagorol, ond dim ond un a all gipio’r goron.  O drwch aden gwybedyn fe fydde Glenys wedi hoffi medru coroni Coppi. Ond mae’n barod iawn serch hynny i gydsynio â Gwynne a finne fod elwyn/ annie/ janet/ jiws wedi ymdrin yn gynnil o feistrolgar a sensitif ag un o felltithion duaf ein dydd. Ac felly fe rydyn ni’n tri yn unfryd o’r farn mai drych elwyn/annie/janet/jiws ‘ddylai adlewyrchu wyneb haul a llygad goleuni yma eleni ym Modedern.”

Yn wreiddiol o Rydaman, mae Gwion Hallam yn byw yn Y Felinheli gyda’i wraig Leri a’u plant, Noa, Moi, Twm a Nedw.  Mae’n gweithio i gwmni teledu Darlun, ac wedi bod yn ffilmio yng Nghonwy, Llambed a De Corea dros y misoedd diwethaf.

Bu’n gweithio fel sgriptiwr ar gyfer teledu a radio, a chyhoeddodd gerddi i blant a nofel i’r arddegau, Creadyn, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2006.  Daeth yn agos at ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, 2003, ond ar ôl hynny, ychydig iawn o farddoni a wnaeth.

Yn ddiweddar, bu’n gweithio ar brosiect llenyddiaeth yn y gymuned ar ran Llenyddiaeth Cymru, gan ymweld â chartrefi, ac mae’n awyddus i ddiolch i Gwen Lasarus am ei berswadio i wneud y gwaith hwn, a thrwy hynny, ailgynnau’r awydd i farddoni ynddo ar ôl blynyddoedd lawer.  Mae hefyd am ddiolch i’r wraig, Leri, a dywed mai iddi hi mae’r cerddi i gyd.

Noddir y Goron eleni gan Ferched y Wawr, a hynny yn ystod blwyddyn o weithgareddau a dathliadau wrth i’r mudiad nodi’i hanner canfed pen-blwydd.  Cyflwynir y wobr ariannol gan Gwmni Dodrefn a Lloriau Perkins, Caernarfon.

Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn-athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, ac mae wedi llwyddo i wau ynghyd Merched y Wawr a lleoliad yr Eisteddfod eleni, Ynys Môn, mewn ffordd grefftus a gofalus.

Mae band y Goron yn cynrychioli Pont Menai, y strwythur eiconig sy’n cysylltu Môn â gweddill Cymru. Ond mae hefyd yn cynrychioli’r cysyniad o bontio yn ei ystyr ehangach - y pontio rhwng cymunedau, a’r ffaith bod yr Eisteddfod yn pontio rhwng y Cymry Cymraeg o bob rhan o’r wlad, rhwng y Cymry a Chymry di-gymraeg, a rhwng y Cymry a dysgwyr.

Ceir ffresgo bychan ym mhob bwa, gyda’r rhain i gyd yn cynrychioli gwahanol elfennau. Yn un ohonynt, gwelir y genhinen pedr, sy’n cynrychioli Merched y Wawr, y noddwyr a mudiad sydd wedi rhoi cymaint i ferched Cymru dros hanner canrif.  Mewn ffresgo arall, ceir Dwynwen ac Ynys Llanddwyn, sy’n cynrychioli cysylltiad Môn â’r môr a chrefydd. Ceir dwy delyn deires mewn ffresgo arall, sy’n cynrychioli Telynorion Llannerch-y-medd, gan ddangos y cysylltiad gyda cherddoriaeth dros y blynyddoedd.

Mewn ffresgo arall gwelir un o atyniadau mwyaf deniadol yr Ynys, sef Melin Llynnon. Mae’n cynrychioli ‘Môn Mam Cymru’ – yr ynys a oedd yn cynhyrchu bwyd i Gymru gyfan ar un adeg. Gwelir cofeb Jona Jones i Dywysogion Gwynedd – sydd i’w gweld yn Aberffraw, sef safle un o lysoedd y Tywysogion – mewn un bwa.  Ac yna, yn y ffresgo olaf, ceir Tlws Pant y Saer, sy’n cynrychioli siambr gladdu enwog o’r cyfnod Neolithig, sy’n agos at bentref Benllech, ac yn symbol o’r ffaith ein bod ni’n dal yma ac yn gofalu am drysorau ein cenedl ganrifoedd yn ddiweddarach.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern tan 12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru
 

Gwion Hallam