Yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyllido Torfol

10 Rhagfyr 2019

Efallai nad yw’r term ‘crowdfunding’ wedi bod o gwmpas am lawer mwy na degawd, ond mae’r cysyniad o gyllido torfol wedi bod yn boblogaidd am gyfnod llawer hirach

Yn aml yn gysylltiedig â’r we, mae cyllido torfol wedi datblygu’n phenomenon byd eang i dalu am bob math o bethau.

Ond, mae sefydliadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn ddibynnol ar godi arian cymunedol am flynyddoedd lawer, gydag ymgyrch y Gronfa Leol yn rhan annatod o’r prosiect blynyddol.  Felly, efallai’i fod yn deg dweud bod yr Eisteddfod yn ‘fabwysiadydd cynnar’ o’r model cyllido torfol.

Gyda’r Gronfa Leol yn Llŷn ac Eifionydd ar fin cael ei lansio, mae trefi a phentrefi ar draws y dalgylch, o Fangor i Foduan, yn paratoi am flwyddyn a hanner o godi arian cymunedol.  Felly, aethom ati i dyrchu drwy hen archifau’r Eisteddfod i weld sut mae’r sefydliad wedi elwa o gyllido torfol dros y ganrif ddiwethaf, gan gychwyn gydag Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925.

1925 oedd y tro cyntaf ers hanner canrif i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn nhref Pwllheli.  Roedd y tywydd a phroblemau gyda’r trenau wedi peri gofid i drefnwyr yr ŵyl yn 1875, ac ni fu’r Eisteddfod yn llwyddiant ariannol.  Felly, roedd cryn bwysau ar yr ardal i sicrhau llwyddiant pum deg mlynedd yn ddiweddarach.  Erbyn 1925, roedd yr Eisteddfod fodern wedi hen ennill ei phlwyf, a’r arferiad o’i chynnal yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn yn gweithio’n dda. 

Mae rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli yn drysorfa o wybodaeth.  Mae’n cynnig cipolwg ar fywyd Cymru yn ystod y cyfnod, gyda llu o hysbysebion ar gyfer pob math o ddanteithion a gwasanaethau a gwybodaeth gynhwysfawr ar gyfer yr Eisteddfodwr selog bron i ganrif yn ôl.

Yng nghefn y gyfrol, ceir rhestr o’r tanysgrifwyr, y bobl a roddodd arian er mwyn cynnal yr ŵyl ym Mhwllheli.  Codwyd dros £3250 - bron i £200,000 mewn arian modern - gan danysgrifwyr o bob math; ambell gwmni neu sefydliad cenedlaethol, busnesau lleol ac unigolion, a charedigion yr Eisteddfod.  A’r mwyaf o’r rhain oedd Mr FC Minoprio o Abersoch, a roddodd £250 i goffrau’r Brifwyl - dros £15,000 mewn arian modern - tipyn o gyfraniad.  Roedd yn ddyn busnes llwyddiannus a brynodd ddarn o dir yn ardal Abersoch ac adeiladu tŷ ysblennydd, Haulfryn.  Roedd hefyd yn credu’n gryf mewn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, gan adeiladu’r ysgol gynradd yn Abersoch yn ôl y sôn.

Mae ambell Arglwydd, Syr, Athro a Pharchedig ar restr y tanysgrifwyr, a rhai enwau digon cyfarwydd, gan gynnwys Cwmni’r White Star Line o Lerpwl, perchnogion y llongau mawrion, a roddodd £10 i goffrau’r Eisteddfod, a Mr Pollecoff, Druid House, Pwllheli, perchennog y siop enwog o’r un enw yn y dref a roddodd £5.5s i’r achos.

Bu’n rhaid aros am ddeng mlynedd ar hugain cyn i’r Eisteddfod ddychwelyd i dref Pwllheli, ac erbyn 1955, roedd y ffordd o gofnodi rhoddion a gweithgareddau wedi datblygu llawer, ac mae’r rhestr hirfaith yng nghefn y rhaglen swyddogol yn edrych yn fwy cyfarwydd i ni heddiw erbyn hyn.  Pan aeth y rhaglen i’r wasg ar 30 Mehefin 1955, roedd y gronfa wedi cyrraedd £19,295.5s.4d - sydd dros hanner miliwn yn ein harian ni heddiw.  Tipyn o gamp!

Llwyddodd arwerthiant llo tarw  (rhodd Mr Ed. Gibby, Pembroke Dock) i godi £120 tuag at y Brifwyl - dros £3,000 heddiw.  Ac mae’n amlwg bod nosweithiau chwist yn ffordd eithriadol o dda o godi arian yn 1955, gyda phob pwyllgor fwy na heb yn cofnodi elw parchus iawn drwy gynnal cystadlaethau’n ystod y flwyddyn.  Roedd rhai pentrefi’n cael llwyddiant mawr gyda chwist, gan gynnwys Dinas, a gododd bron i £50 mewn elw wrth chwarae chwist, ac Efailnewydd a gofnododd dros £30 tuag at y gronfa wrth gynnal cystadlaethau!

Codwyd £24.1s.7d mewn Ymryson Cŵn Defaid yn ardal Rhydyclafdy, a £16.13s mewn Parti Selsig Ymwelwyr yn Nhudweiliog.  Yn anffodus, ‘does dim mwy o fanylion na hyn am yr un o’r ddau ddigwyddiad!  A ‘does dim rhagor o fanylion am y £6.15s a godwyd gan ardal Garndolbenmaen yn eu Harwerthiant Dofednod &c.  Ond fe lwyddodd yr elw hwn i helpu’r pentref i gyrraedd cyfanswm o £139.7s.4d ar gyfer y Gronfa Leol.  Byddai’n braf cael gwybod beth oedd yr ychwanegiadau i’r arwerthiant a gofnodwyd fel ‘&c’ yn unig yng nghefn y rhaglen!

Mae enw Mr Yehudi Menuhin, y feiolinydd enwog, yn ymddangos yn y rhestr o’r rheini a gyfrannodd tuag at Bwyllgor Apêl tref Pwllheli, ond, yn anffodus, ni cheir cofnod o faint o rodd a dderbyniwyd ganddo tuag at gynnal yr Eisteddfod.  Diddorol fyddai darganfod hynny, a’i reswm dros gyfrannu tuag at apêl Pwllheli! 

Ac fe gefnogwyd yr Eisteddfod unwaith eto gan deulu Mr FC Minoprio o Abersoch, tanysgrifiwr mwyaf hael yr Eisteddfod ddeng mlynedd ar hugain ynghynt, gyda chwmni Haulfryn Estate Co. yn cyflwyno £25 i goffrau’r ŵyl.

Tro Eifionydd a thref Cricieth oedd hi i roi cartref i’r Eisteddfod yn 1975.  Ac erbyn hyn roedd y gweithgareddau a drefnir i godi arian yn edrych yn llawer mwy tebyg i’r hyn a welir ar draws Cymru heddiw.  Cododd y Gronfa £73,842, sy’n cyfateb i bron i £615,000 yn arian heddiw.  Mae’r cyfanswm yma’n cynnwys cyfraniadau’r cynghorau ar hyd a lled Cymru yn ogystal â’r gwaith codi arian ar lawr gwlad.

Er bod nifer o gyfraniadau’n dod wrth gynnal nosweithiau chwist, ‘doedd y cystadlaethau hyn ddim mor ffasiynol a phoblogaidd erbyn canol y 70au, gyda theithiau cerdded yn cael eu cynnal ar hyd a lled y dalgylch er mwyn codi arian. 

Mae cyfraniadau tref Cricieth yn ddiddorol, gydag amryw o weithgareddau’n cael eu cynnal a’u trefnu gan bobl a oedd wedi symud i’r ardal.  Mae’r geiriau ‘cyfeillion Seisnig’ yn ymddangos mewn cromfachau ar ôl pob un o’r gweithgareddau hyn yn y rhaglen, ac mae’n amlwg i’r cyfeillion fod wrthi’n brysur yn cefnogi, gan godi dros £500 tuag at gyfanswm y dref.

Yr hyn a ddaw’n amlwg wrth ddarllen am nosweithiau coffi, cyngherddau, helfa drysor a gornestau chwist, yw’r nifer o weithgareddau cymunedol sy’n cael eu cynnal yn lleol er budd yr Eisteddfod, ac wrth gwrs, mae hyn yn parhau hyd heddiw. 

Mae effaith y digwyddiadau hyn yn llawer mwy pellgyrhaeddol na dim ond cyrraedd targed y Gronfa Leol.  Dyma weithgareddau mewn cymunedau bach a mawr sy’n dod â phobl at ei gilydd.  Mae’n gyfle i adfywio bywyd cymdeithasol rhai ardaloedd dros gyfnod o ddwy flynedd.

‘Does dim rhaid i’r gweithgareddau fod yn fawreddog neu grand.  Mae cyfle i ddod ynghyd mewn neuadd gynnes gyda phaned a chacen yn aml yn ddigon, yn gyfle i rannu newyddion gyda chymdogion a ffrindiau.  Dyma yw hanfod cymuned, a dyma un o brif nodweddion Cronfa Leol yr Eisteddfod.  Pobl leol yn trefnu gweithgareddau yn eu hardal i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod.  Ac mae’n gweithio, ac fe fydd yn parhau i weithio wrth edrych i’r dyfodol. 

Os hoffech chi fod yn rhan o’r Gronfa Leol ar gyfer Eisteddfod 2021, cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod ar 0845 4090 400, anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk, neu ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.