Eisteddfod Aberdâr 1861

Penderfynwyd creu corff o’r enw ‘Yr Eisteddfod’ gyda phwyllgor gwaith a fyddai’n cael ei adnabod fel ‘Y Cyngor’.  Penderfynwyd hefyd y byddai’r Eisteddfod yn ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail blwyddyn, er mwyn rhoi cyfle i bawb ymweld â’r Brifwyl pan ddeuai i’w hardal leol.

Dewiswyd Aberdâr fel y lleoliad cyntaf ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ym mis Gorffennaf 1861, cyhoeddwyd cerdd gan ‘Nai ‘Rhen Ddyrnwr’ yn Y Gwladgarwr, i groesawu pawb i’r Eisteddfod yn Aberdâr, a oedd i’w chynnal ymhen y mis.  Mae’n rhaid gobeithio bod safon y cyfansoddiadau a ddaeth i law ar gyfer yr Eisteddfod ei hun o well safon na’r gerdd arbennig hon!

‘Rwyf heddyw yn gwahodd yn nghyd
Y beirdd o bedwar cwr y byd,
I ddyfod, cofiwch oll mewn pryd,
               I’r National’ Eisteddfod.

Am dri diwrnod ar y Ton,
O fewn mis Awst cynhelir hon,
Bydd Tent eangfawr newydd spon
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Dysgwyliwn weled Emrys gawr,
A’r hyglod Fardd o Glynog fawr,
A Robyn Wyn yn d’od i lawr,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Talhaiarn hefydd ddaw i’r De’
A bechgyn doniol Llundain dre’,
A’r Captain Gwrgant deued e,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Daw RJ Derfel gyda’r llu,
A’r enwog Llystyn coeliwch fi,
Ac Awdwr ‘Oriau’r Hwyr’ am spri,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Nicander Cymru ddaw pryd hyn,
A Iorwerth hyfwyn bardd y glyn,
Glasynys hoff ac Ellis Wyn
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Fe ddaw Creuddynfab yn ei chwys,
A’r ieithydd clodwiw RJ Prys,
Glan Alun hefyd, gyda brys,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Bydd Llawdden gynt o Gastellnedd,
A’r Llew o Fôn yn llon ei wedd,
Yn d’od i lawr ar awr y wledd,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Daw Ioan Emlyn galon rydd,
A Dewi Wyn o ger Caerdydd,
A’r bardd Cynddelw rhed fel hydd,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Daw Brinley Richards beth dal son,
A phob rhyw gerddor peraidd dôn,
A’r beirdd o Aberdar i Fôn,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Bydd yma ddynion gwyllt a gwâr,
A Chor Undebol Aberdar,
A llawer llanc yn gyrru’n scwar,
               I’r ‘National’ Eistedddfod.

Ni fynwn gael excursion Tren,
Er cludo’r ieuanc fel yr hen,
Pob un i ddyfod gyda gwen,
               I’r ‘National’ Eisteddfod.

Mae’n amlwg felly bod pawb yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr.  Roedd swyddogion wedi bod yn cyfarfod mewn gwahanol rannau o Gymru a Lloegr drwy gydol y flwyddyn - yn wir, roedd un cyfarfod yn Yr Amwythig wedi para am bron i ddeg awr - er mwyn rhoi trefn ar y testunau ac ar y trefniadau ar gyfer yr ŵyl genedlaethol gyntaf. 

Roedd y beirniaid barddonol wedi’u dewis mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Ddirwestol yn Aberdâr ddiwedd y flwyddyn flaenorol, dan gadeiryddiaeth Alaw Goch, ac roedd Eben Fardd, Aneurin Fardd ac Emrys yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gwaith, er bod dipyn o gwyno wedi bod ymysg y beirdd ar ôl i Emrys gael ei ddewis fel un o brif feirniaid yr wyl.

Ond roedd popeth yn ei le ar gyfer agor Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn y dref a’r gwaith o baratoi’r ardal ar gyfer croesawu’r Brifwyl wedi’i gwblhau, fel y nodir yn y Cardiff and Merthyr Guardian ar 24 Awst, 1861, “The streets of Aberdare presented quite an animated appearance, the streets were gaily decorated with floral devices, and triumphal arches, whilst from the windows of the house floated a profusion of bunting, embracing flags of all nations.”

Ond, nid oedd gŵyl fawr Aberdâr heb ei phroblemau, er wrth ddarllen dechrau adroddiad Seren Cymru ar 30 Awst 1861, byddai’n anodd credu hynny, “Mae yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cynnal ei rhes gyntaf o gyfarfodydd yn Aberdâr.  Yr oeddem gyda phryder nid bychan yn edrych yn mlaen am y cynulliad, ac yr ydym yn awr yn gallu edrych yn ôl ar y gweithrediadau gyda hollol foddlonrwydd.  Mae yn ddywediad cyffredinol fod yr Eisteddfod fawr wedi bod yn HOLLOL LWYDDIANNUS.”

Er efallai na fyddai darllenwyr y Cardiff and Merthyr Guardian yn cytuno gyda’r disgrifiad uchod o’r ŵyl - yn bendant, nid yw’r adroddiad yma’n disgrifio digwyddiad a fu’n HOLLOL LWYDDIANNUS! Meddai’r adroddiad, “Exactly 12 months and a day, according to bardic custom, the Eisteddfod was proclaimed to be opened on Tuesday morning, not altogether under the most favourable circumstances, in fact the elements were entirely against the affair.  The committee, at the head of which was D Williams, Esq., of Ynyscynon House, Aberdare, had at the great expense of £300 (£35,944 heddiw) contracted with a builder, at Gloucester, to erect a monstre wooden marquee on Hirwain Wrgant Common.  After its erection the rain fell and the winds blew so strong as to unroof it.  In consequence of this the “international" assembly had to take place somewhere else, and in this dilemma the committee obtained the Market-house, which is a capacious building.”

Felly, mae’n amlwg nad yw tywydd gwael yn broblem newydd i’r Eisteddfod Genedlaethol – mae’r peryglon yn bodoli ers bron i 160 o flynyddoedd!

Ddiwedd Medi, ysgrifennodd Alaw Goch, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod lythyr at Y Gwladgarwr yn cloriannu’r Eisteddfod yn Aberdâr.  Mae’n amlwg bod y gwynt mawr ar ddechrau’r wythnos wedi cael effaith ar yr ŵyl, oherwydd fe gafwyd colled ariannol wrth i bobl gadw i ffwrdd ar ôl clywed am “ddinystrio ein pabell fawreddog”.  Ond roedd y llythyr hefyd yn gyfle i sôn am lwyddiannau’r wythnos, ac meddai, “Eto yr oedd pawb, gwrêng a bonheddig, bychain a mawrion, hen ac ieuanc, pell ac agos, fel plant Evan Dafydd, yn gwlwm, yn mwynhau eu gilydd, a gwen hapus ar bob gwyneb - heb hanes cymaint ag un trosedd wedi ei chyflawnu gan neb - dim un dyn meddw i’w weled ar un heol - pawb wedi eu llyncu gan ysbryd yr Eisteddfod, a llawer yn rhoddi eu cyhoeddiad i’r nesaf yng Nghaernarfon.”

Felly, ar ddiwedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberdar, roedd y sefydliad yn edrych ymlaen at deithio i fyny i’r gogledd i ymweld â Chastell Caernarfon.  A dyna ddechrau ar y patrwm o deithio rhwng y gogledd a’r de o flwyddyn i flwyddyn, patrwm sydd wedi parhau hyd heddiw, dros gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach.