Sut ga i docyn i'r Eisteddfod eleni?

Mae tocynnau ar werth ar ein gwefan. Cliciwch yma i weld holl gwybodaeth gyffredinol am ein tocynnau. 

Beth sy’n digwydd ar y Maes?

Dros 8 diwrnod mae'r Maes yn gartref i gannoedd o ddigwyddiadau celfyddydol, hamddenol, a masnachol o bwb cwr o Gymru, a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Cliciwch yma i weld holl gyhoeddiadau hyd yn hyn. Bydd ein rhaglen ar werth ar ein gwefan yn yr wythnosau i ddod.

Ga i wirfoddoli ar y Maes?

Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli bellach ar agor! Cliciwch yma i weld yr holl fanylion.

Oes ‘na dapiau dŵr ar y Maes?

Mae pwyntiau dŵr ar gael ar hyd a lled y Maes, ac wedi’u nodi’n glir ar fap y safle.  Mae’r rhain wedi’u gosod yn isel er mwyn hwyluso ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn a sgwteri. 

Ein bwriad yw annog ymwelwyr i ddod â photeli dŵr y gellir eu hail-ddefnyddio i’r Maes, a’u llenwi’n rheolaidd wrth grwydro.  Nid oes poteli dŵr plastig ar werth ar y Maes eleni.

Oes gennych chi ganolfan eiddo coll?

Oes.  Ewch ag unrhyw eiddo coll i Swyddfa’r Eisteddfod y tu ôl i’r Pafiliwn.  Bydd eiddo coll sydd heb ei gasglu’n dychwelyd i’n swyddfa yng Nghaerdydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’w ddychwelyd i'r perchennog.  Mae’n bosibl y bydd cost am bostio rhai eitemau.  Os na fydd eiddo wedi’i gasglu / dychwelyd erbyn diwedd Medi, byddwn yn cysylltu gydag elusennau lleol. 

Ydw i'n cael dod â fy nghi i'r Maes?

Ydych. Mae croeso i gŵn ufudd a chyfeillgar cyn belled â’u bod nhw ar dennyn tynn drwy’r amser.  Dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i’r Pafiliwn, ond mae croeso mawr i gŵn eraill o amgylch y Maes.

Oes gennych chi deithiau tywys eleni?

Oes.  Maen nhw'n gadael y Hwb Gwybodaeth am 11:00 a 14:00 bob dydd ac yn arbennig o addas i ymwelwyr newydd. Holwch yn y ddesg ymholiadau

Oes 'na gystadleuaeth golff eleni?

Oes! Cliciwch yma i weld y manylion.

Oes gennych chi ystafell weddïo eleni?

Oes, mae gennym ni ardal arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gweddïo neu myfyrio yn ystod eu hymweliad.  Mae'r ystafell weddïo aml-ffydd wedi'i lleoli i ffwrdd oddi wrth fwrlwm mawr y Maes, yn agos at y Llecyn Llonydd a'r Hwb Hygyrchedd ac wedi'i nodi ar ein map

Ydw i dal yn gallu cyfrannu i'r Gronfa Leol?

Wrth gwrs! Mae'r Gronfa Leol dal ar agor, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am bob cyfraniad. Cliciwch yma i gyfrannu i'r coffrau.