Outdoor event with large red 'EISTEDDFOD' letters, people walking among tents and trees, and a circle of standing stones in the foreground

Ble a phryd?

Llantwd, yng nghanol gogledd Sir Benfro – un o gorneli mwyaf hudolus Cymru – fydd cartref yr Eisteddfod o 1–8 Awst 2026!

Eleni, rydyn ni’n dathlu yn ardal ‘y Garreg Las’, wedi’i henwi ar ôl y garreg leol drawiadol sy’n rhan o’n tirwedd a’n hanes. Mae’r dalgylch yn ymestyn dros dair ardal arbennig: Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr – pob un yn llawn cymeriad, croeso, a digon i’w ddarganfod.

Cyn yr ŵyl 

Ymunwch â’r hwyl drwy gydol y flwyddyn!
Rydyn ni’n chwilio am bobl wych i wirfoddoli gyda’n pwyllgorau codi arian lleol. Rydyn ni’n trefnu pob math o bethau hwyliog – digwyddiadau, gweithgareddau, a llawer mwy!

Hoffech chi wybod mwy? Dewch i gael sgwrs gyda ni heddiw, neu anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.cymru – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Dyddiadau pwysig

  • Ionawr: Cystadlu'n agor ar-lein | Lansio côr yr Eisteddfod
  • 2 Mawrth: Carafanau, stondinau a sesiynau Cymdeithasau ar werth
  • 1 Ebrill: Dyddiad cau cystadlaethau cyfansoddi | Gwirfoddoli ar y Maes yn agor
  • 1 Mai: Dyddiad cau cystadlaethau llwyfan a Dysgwr y Flwyddyn
  • 1-8 Awst: Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Beth am droi diwrnod yn yr Eisteddfod yn wythnos llawn hwyl ac atgofion melys? 
Mae’r Eisteddfod yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gwersylla i sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol – os ydych chi’n chwilio am le tawel neu’n barod am antur!

Maes pebyll teuluol – perffaith i’r rhai sy’n hoffi bach o lonyddwch gyda’r nos.
Maes B – i’r arddegau sy’n rhy cŵl i aros gyda mam a dad!
Hwyrnos – ar gyfer y criw 21+ sy’n barod am nosweithiau llawn hwyl.
Maes carafanau – eiconig, poblogaidd, a llawn cymeriad!

Mae lle i bawb – ond os mai diwrnod yn unig sydd gennych chi, mae croeso cynnes i chi alw heibio hefyd!

Chwilio am rywle lleol i aros?

Mae’r cynghorau lleol yn llawn syniadau gwych am lefydd braf i aros ac i ymweld â nhw ar draws ardal y Garreg Las. Edrychwch ar wefannau twristiaeth:

Lluniau: Hawlfraint y Goron | Aled Llywelyn