Sesiynau i rannu syniadau am ddigwyddiadau bach a mawr y gellid eu cynnal i godi arian a chodi hwyl, a chyfle i rannu enghreifftiau o esiamplau llwyddiannus o Eisteddfodau diweddar.
Nos Lun 3 Tachwedd: Mesur ein llwyddiant wrth fynd ymlaen
Cyfle i adnabod llwyddiannau'r gwaith cymunedol yma, y tu hwnt i fesur yr arian a godwyd, e.e. a oes pobl newydd wedi dod yn rhan o weithgarwch Cymraeg, oes syniadau am ddigwyddiadau rheolaidd newydd wedi'u creu, oes talent newydd wedi cael llwyfan... ac ati
Cliciwch yma i ymuno ar 3 Tachwedd
Nos Fercher 19 Tachwedd: Denu pobl newydd i rannu ac ysgwyddo'r baich o drefnu ac arwain digwyddiadau yn eich bro
Cyfle i rannu profiadau am anawsterau a rhwystrau sy'n codi wrth geisio trosglwyddo cyfrifoldebau, a chlywed cynghorion defnyddiol gan unigolion sydd wedi bod drwy'r broses
Cliciwch yma i ymuno ar 19 Tachwedd
Cynhelir y sesiynau am 18:00
Lle: Sesiwn arlein.
Hyd: Tua 30-45 munud
Dewch i drafod! Cofrestrwch isod i ddweud eich bod chi'n dod.