Hygyrchedd yr Eisteddfod
Fel gŵyl, mae’r Eisteddfod yn ymweld â gwahanol ardaloedd a chymunedau pob blwyddyn, a phob blwyddyn mae ymwelwyr yn dod atom o wahanol ardaloedd a chymunedau.
Os oes anabledd gyda chi, gobeithio y bydd y cyngor isod yn eich cynorthwyo i gael ymweliad wrth eich bodd, ac mae croeso i chi gysylltu gyda ni cyn eich ymweliad os oes gennych unrhyw ymholiad penodol.
Mae'r Eisteddfod yn ŵyl deithiol, ac yn aml fe'i cynhelir ar gaeau amaethyddol. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau llwybrau gwastad o amgylch y Maes, ond rydym yn ddibynnol iawn ar y tir ei hun wrth gynllunio a pharatoi'r Maes. **Byddwch yn wybyddus gall y tirwedd mewn rhai rhannau o'r safle fod yn anodd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri.**
Mae’r Eisteddfod yn ymrwymedig i ddarparu Maes a chyfleusterau hygyrch i bawb, ac i wneud pob ymdrech o fewn rheswm i wneud ymweliad i Faes yr Eisteddfod yn un mor bleserus â phosibl.
Cyrraedd yr Eisteddfod
Sgwteri a chadeiriau olwyn i'w llogi
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chwmni Byw Bywyd, ac mae stondin y cwmni yn agos at y brif fynedfa bob blwyddyn. Gallwch logi cadeiriau olwyn a sgwteri yma ar gyfer eich ymweliad. Rydym yn annog ymwelwyr sy'n awyddus i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gysylltu â Byw Bywyd ymlaen llaw er mwyn sicrhau argaeledd sgwter neu gadair olwyn. Rhif cyswllt y cwmni yw 01286 830 101.
Bydd llecynnau dynodedig ar hyd y Maes i gysylltu er mwyn gwefru sgwteri. Gweler y lleoliadau ar gynllun y Maes, neu gofynnwch i un o’r stiwardiaid.
Tocynnau
Pafiliwn yr Eisteddfod
Yn y Pafiliwn, neilltuir lle arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn, a sedd gerllaw i dywyswyr. Gofynnir i chi archebu'r rhain ymlaen llaw, er mwyn sicrhau eich lle, a gellir gwneud hyn naill ai drwy e-bostio gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio'r llinell docynnau ar 0845 4090 800.
Ceir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y Pafiliwn (gan Gwmni Cyfieithu Cymen) y gellir ei ddefnyddio er mwyn dilyn y gweithgareddau. Gellir ei ddefnyddio fel teclyn ‘sain-ddisgrifio’. Mae’r offer ar gael yn rhad ac am ddim o’r Ganolfan Gyfieithu o flaen y Pafiliwn, neu gofynnwch i un o staff neu wirfoddolwyr y Ganolfan Ymwelwyr am gymorth. Gwasanaeth Saesneg yn unig yw'r gwasanaeth cyfieithu.
Hygyrchedd cyffredinol o amgylch y Maes
Eleni mae’r tracfyrddau i gyd yn rhai esmwyth ar gyfer cadeiriau olwyn a sgwteri ac mae ramp i bob adeilad. Os cewch drafferth i gael mynediad i unrhyw adeilad, rhowch wybod i Swyddfa’r Eisteddfod ar unwaith. Os ydych yn cael trafferthion yn mynd o amgylch y Maes, cysylltwch gydag un o’r Goruchwylwyr Stiwardio (siacedi gwelededd uchel coch / oren) fydd yn medru galw am wasanaeth cerbyd pwrpasol i’ch cynorthwyo.
Bydd rhaglen cynnal a chadw yn weithredol i sicrhau y bydd y gwair ar y maes parcio Bathodyn Glas a’r Maes wedi ei dorri.
Cŵn Cymorth
Croesewir cŵn cymorth ym mhob rhan o’r Maes gan gynnwys y Pafiliwn, ond gadewch i'r stiwardiaid wrth y drws wybod os ydych am ddod â'r ci i mewn i'r adeilad er mwyn iddyn nhw eich cynorthwyo i gael hyd i sedd addas gyda digon o le i'r ci wrth eich ymyl.
Llecyn Llonydd
Mae darpariaeth ar gyfer ymwelwyr ag anableddau sydd yn dymuno llecyn tawel i ymlacio am ychydig o brysurdeb y Maes. Lleolir ein hadeilad Llecyn Llonydd ger yr Uned Cymorth Cyntaf nis ymhell o’r Pafiliwn rhwng y Neuadd Ddawns a’r Pagoda ar gynllun y Maes.
Goleuadau fflachiog (strobe)
Efallai y bydd defnydd o oleuadau fflachiog mewn rhai sioeau yn ein hadeiladau neu ar ein llwyfannau yn ystod yr wythnos.
Toiledau
Ymhob bloc o doiledau, mae un sydd wedi addasu ar gyfer bobl anabl, gyda ramp yn arwain atynt, ac yn y bloc toiledau ger yr Uned Cymorth Cyntaf / Pafiliwn ceir toiled anghenion arbennig (high dependency). Mae clo ar y toiled yma sydd yn gweithio gyda goriad “RADAR”. Os byddwch angen defnyddio'r cyfleuster hwn a heb y goriad pwrpasol, ewch i Swyddfa’r Stiwardiaid neu y Ddesg Wybodaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr neu i’r Uned Cymorth Cyntaf gerllaw.
Bydd toiledau a chawodydd ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael y ein Meysydd Carafanau a Gwersylla teuluol. Bydd lleoliad yr holl wasanaethau a darpariaethau wedi eu nodi ar gynllun fydd ar gael wrth i breswylwyr gyrraedd.
Cymorth ychwanegol
Mae stiwardiaid ym mhob un o'n hadeiladau ac ar gael i gynnig cymorth ymarferol. Maent yn hawdd i’w hadnabod, yn gwisgo siacedi gwelededd uchel gwyrdd. Ewch atynt gydag unrhyw broblem ymarferol, a byddent yn barod i’ch cynorthwyo, neu drefnu i rywun arall eich cynorthwyo. Bydd y stiwardiaid yn gallu eich helpu a'ch cynghori am bob elfen o'ch ymweliad.
Fe wnawn bob ymdrech o fewn rheswm i wneud ymweliad pawb i Faes yr Eisteddfod yn un mor bleserus â phosibl. Fodd bynnag, os y cewch unrhyw drafferthion yn ystod eich ymweliad â’r Maes, ewch i Swyddfa’r Eisteddfod, sydd y tu ôl i’r Pafiliwn, neu i’r Ganolfan Ymwelwyr.
Cysylltu