Rydyn ni’n cynnig nifer fawr o gyfleoedd gwirfoddoli o bob math drwy gydol y flwyddyn, o helpu yn eich cymuned i lywio datblygiad a dyfodol y sefydliad ar lefel genedlaethol.
Mae nifer fawr o’n cyfleoedd ni’n ymwneud ag wythnos yr Eisteddfod, ac un o’n cyfleoedd mwyaf poblogaidd yw stiwardio. Ein stiwardiaid yw asgwrn cefn yr ŵyl – yr wynebau cyfeillgar cyntaf mae ymwelwyr yn eu gweld wrth gyrraedd y Maes ac sy’n barod eu cyngor a’u cymorth os oes unrhyw beth yn codi. Cliciwch ar y bocs ‘Rydw i eisiau stiwardio’ er mwyn darllen mwy am y rôl a chofrestru eleni.
Bydd amryw o gyfleoedd gwirfoddoli eraill ar gael yn ystod yr wythnos a byddwn yn hysbysebu’r rhain wrth iddyn nhw godi. Cliciwch ar y bocs ‘Rydw i eisiau helpu ar y Maes’ er mwyn gweld beth sydd ar gael.
Rydyn ni’n gweithio ar ddwy os nad tair Eisteddfod ar hyd y flwyddyn ac mae ein gwaith yn lleol yn cael ei lywio gan bwyllgorau a thimau o wirfoddolwyr. Hoffech chi ymuno â’r tîm? Mae croeso mawr i bawb, beth bynnag yw eich diddordeb. Cliciwch ar y blwch ‘Rydw i eisiau helpu’n lleol’ am ragor o wybodaeth. Gall hwn fynd â chi at wybodaeth am un o eisteddfodau'r dyfodol yn hytrach nag eleni.
Byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn i bawb, ac yn cynnig cefnogaeth i bob un o'r tîm yn ystod yr wythnos ei hun.
Eleni am y tro cyntaf, mae'r hyfforddiant yn cynnwys sesiynau wyneb-yn-wyneb cyn yr Eisteddfod, ynghyd â modiwlau hyfforddi ar-lein fel eich bod chi'n teimlo'n gwbl hyderus a hapus cyn dod i wirfoddoli gyda ni.
Eisiau sgwrs anffurfiol am y cyfrifoldebau a'r profiad yn ystod yr wythnos neu yn y gymuned? Cysylltwch â’n cydlynydd gwirfoddoli ni, Morys Gruffydd.
Meddwl cynnig eich enw i ymuno â’n Cyngor neu Fwrdd Ymddiriedolwyr? Ebostiwch am ragor o fanylion a sgwrs.
Dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni. Mae gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg!
Heb ddefnyddio Cymraeg ers peth amser? Dewch i wirfoddoli! Mae'n gyfle ardderchog i ail-afael yn eich Cymraeg!
Cliciwch ar y bocs sy’n mynd â’ch bryd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich cael yn aelod o’r tîm yn fuan.