Bydd nifer o bobl yn ymweld â Wrecsam wythnos y Steddfod, gan gynnwys rhai sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae ein prosiect Harddu poblogaidd yn gyfle i chi roi croeso mawr i ymwelwyr yr Eisteddfod trwy addurno'ch ardal.
Rydyn ni wedi paratoi 'Pecyn Harddu' llawn syniadau o sut i fynd ati i ddechrau ar y gwaith.
Unwaith y bydd eich prosiect yn barod i'w osod, rydyn ni’n gofyn yn garedig i chi weithio gyda'ch gilydd i osod y gwaith yn ddiogel, gan sicrhau eich bod yn cael caniatâd y cyngor neu'r tirfeddiannwr i osod y gwaith.
Dyddiadau pwysig:
- 13 Mehefin - 50 diwrnod i fynd - Harddu'n dechrau!
- 5 Gorffennaf - Diwrnod tacluso - Diwrnod i baratoi a chael eich ardal yn lan a thaclus cyn dechrau ar y gwaith harddu
- 5-6 Gorffennaf - Penwythnos Harddu - Cyfle gwych i ddod a'r gymuned at ei gilydd i addurno eich ardal
Os ydych yn bwriadu codi celf ar dir Cyngor Wrecsam, sicrhewch eich bod yn danfon ffurflen gais er mwyn sicrhau caniatâd. Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen gais.

Angen ysbrydoliaeth? Edrychwch yn ôl i lwyddiant Llŷn ac Eifionydd yn 2023...









