Pafiliwn

Gwobrwyir Y Fedal Ddrama i'r dramodydd buddugol am gyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd - drama sydd yn dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael cydweithio gyda chwmni proffesiynol

Cyflwynir rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts

Gwobr: Y Fedal Ddrama (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch, Mari, a’u hŵyr, Mei)

Beirniaid: Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch