Y Lle Celf

Darn newydd sbon gan Gynyrchiadau Leeway sy'n archwilio'r heriau o fod yn fam sengl ddosbarth gweithiol ac yn rhoi mewnwelediad i fywydau arwresau di-glod sy'n bwrw 'mlaen ddydd ar ôl dydd. Cerddoriaeth gan Lleuwen Steffan


"'Wedai wrthoch chi ddiffiniad o fod yn rhiant sengl... byw yn gymhleth oherwydd pan ti’n gwahanu oddi wrth rieni dy blentyn a wedyn yn cyflwyno pobl eraill i' mewn i’r mix, criw cyfan o bobl sy'n tynnu i gyfeiriadau gwahanol....OH MY GOD…. mae'n gymhleth weithiau, ondyw e?”

Wedi'i ddatblygu gan Angharad Lee, sydd ei hun wedi bod yn fam sengl ers blynyddoedd, bydd y darn hwn yn herio'r hyn rydyn ni'n meddwl rydyn ni'n ei wybod am fywydau beunyddiol y superhumans hyn