Y Lle Celf 2017

Ynghyd ag annog gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a hyrwyddo casglu gwaith celf, wrth ddathlu dyfeisgarwch ac ymroddiad, mae’r arddangosfa yn Y Lle Celf yn cynnig drych o’r hyn sy’n digwydd ym myd y Celfyddydau Gweledol yng Nghymru ar adeg benodol.

Trefnir Y Lle Celf gan yr Eisteddfod Genedlaethol a chefnogir y gwaith gan Gyngor Celfyddydau Cymru.