Y Lle Celf yw'r oriel gelfyddydau gweledol ar faes yr Eisteddfod. Mae'n ddathliad o gelfyddyd yng Nghymru ac yn cyfuno gwaith artistiaid newydd a chydnabyddedig.
Ynghyd ag annog gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a hyrwyddo casglu gwaith celf, wrth ddathlu dyfeisgarwch ac ymroddiad, mae’r arddangosfa yn Y Lle Celf yn cynnig drych o’r hyn sy’n digwydd ym myd y Celfyddydau Gweledol yng Nghymru ar adeg benodol.
Mae gan Y Lle Celf ei gwsmeriaid blynyddol ac mae rhyw fri i brynu gwaith celf yn yr Eisteddfod ac mae modd i artistiaid feithrin cefnogwyr. Dros y degawd diwethaf, mae Y Lle Celf ac adran celfyddydau gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyfrannu dros £200,000 i'r economi yng Nghymru.
Y Lle Celf mewn 3D - Dyma deithiau o amgylch arddangosfeydd Y Lle Celf y gorffennol.
Gellir lawrlwytho catalogau o'r gorffennol ar waelod y dudalen hon.