Y tro hwnnw, roedd popeth yn ei le. Y dyddiadau cau i gyd wedi pasio, y beirniadaethau i gyd wedi’u dychwelyd, y pafiliwn yn barod, a’r unig beth ar ôl i’w wneud oedd edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor - a hynny mewn cwta fis. Roedd yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn flynyddol ers 1880. Y flwyddyn oedd 1914; beth allai fynd o’i le?
Ar 4 Awst y flwyddyn honno, fe newidiodd y byd am byth, wrth i Brydain ymuno â’r Rhyfel Mawr. Dridiau ar ôl y cyhoeddiad enfawr hwn, cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Gweithredol yr Eisteddfod ym Mangor, ac yn ôl yr adroddiad yn Y Dinesydd Cymreig, “Ar gynigiad Syr Henry Lewis, cymeradwywyd y penderfyniad canlynol yn unfrydol gan y pwyllgor:- “Gan fod y cwestiwn o’r priodoldeb o gynnal yr Eisteddfod ym Mangor y flwyddyn hon, oherwydd ystâd ddifrifol yr amgylchiadau presennol, wedi cael ei godi fod y pwyllgor wedi penderfynu nad oed yna reswm digonol ar hyn o bryd i fyned oddiwrth y penderfyniad y daethpwyd iddo cynt i gynnal yr Eisteddfod.”
Ond roedd newid mawr ar droed, a dyddiau yn unig ar ôl pasio cynnig Syr Henry Lewis, roedd swyddogion yr Eisteddfod yn poeni am ymarferoldeb cynnal yr ŵyl. Yn ôl rhifyn 19 Awst 1914 o’r Udgorn, roedd un peth pendant yn poeni’r trefnwyr, sef anawsterau teithio er mwyn cyrraedd yr ŵyl, “Nid oes ddim yn derfynol wedi ei wneyd eto ynglŷn â chynnal Eisteddfod Genedlaethol Bangor eleni. Yr anhawsder mwyaf ar y ffordd yr cael trêns rhad i redeg. I fyny i nos Wener ddiweddaf nid oedd yr un o’r cwmnïau wedi anfon atebion terfynol. Y mae’r oll o’r corau sydd yn paratoi i gystadlu yn barod i fod yn bresennol os y bydd modd cael cyfleusterau priodol i deithio. Os na chynhelir yr Eisteddfod eleni, gwneir cais i gael yr Eisteddfod ym Mangor y flwyddyn nesaf yn lle yn Aberystwyth. Cynhelir cyfarfod o’r pwyllgor heno (nos Fawrth) i ystyried y mater ymhellach.”
Ymhen wythnos, roedd y Pwyllgor Ariannol wedi dod ynghyd i edrych eto ar y penderfyniad i gynnal yr ŵyl, gydag adroddiad yn Y Dinesydd Cymreig ar 26 Awst yn nodi, “Cyfarfu Pwyllgor Gweithiol yr Eisteddfod i ystyried argymhelliad y pwyllgor ariannol i ohirio ei chynhaliad hyd Fedi 1915. Darllenwyd llythyr Mr TJ Williams, cyn-drysorydd yr Eisteddfod yn datgan ei fwriad i ymddiswyddo os y mabwysiedid yr argymhelliad… Adroddai’r Maer i lythyrau gael eu derbyn oddiwrth Mr Lloyd George a Syr Vincent Evans yn gofyn i’r pwyllgor ei chynnal, a chaed cais cyffelyb oddiwrth dri o gorau mawr De Cymru.”
Am unwaith, ni lwyddodd geiriau Lloyd George i lywio’r drafodaeth, ac “Wedi ymraniad, pleidleisiodd mwyafrif llethol y pwyllgor dros y gohiriad, a phasiwyd fod y trefniadau ariannol i’w gadael i’r pwyllgor ariannol.”
Ac roedd tipyn o drefniadau ariannol i’w trafod. Roedd goblygiadau’r penderfyniad i ohirio’r Eisteddfod yn enfawr. Roedd y Pwyllgor Gweithiol eisoes wedi derbyn adroddiad, a oedd yn nodi y byddai’r golled yn 1,800p (£116,255 heddiw) petai’r ŵyl yn cael ei chanslo. Byddai angen swm o 3,184p (£369,812 heddiw) petai’r ŵyl yn cael ei gohirio am flwyddyn a 2,734p (£317,546 heddiw) yn ychwanegol wrth barhau i gynnal yr ŵyl.
Felly, roedd y penderfyniad wedi’i gymryd i ohirio’r Eisteddfod am flwyddyn, ond roedd y swyddogion a’r pwyllgor yn wynebu problemau ariannol dirfawr, ac roedd yn rhaid codi arian, a hynny’n gyflym.
Ar 16 Medi, cyhoeddodd Y Dinesydd Cymreig fod y Pafiliwn, am gael ei ddefnyddio i gadw milwyr - a hynny am bris rhesymol, “Yr oedd nifer y dynion a ymrestrwyd yn Swyddfa Wrexham i’r Royal Welsh Fusiliers mor fawr fel na ellid cael digon o le i’w lletya. Ddydd Iau aeth nifer o swyddogion milwrol gyda Syr Henry Lewis i archwilio Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a gofynasant y telerau ar ba rai y gellid ei ddefnyddio i letya’r milwyr ychwanegol. Galwyd cyfarfod ar unwaith o Bwyllgor Arianol yr Eisteddfod, gyda’r canlyniad i ddefnyddiad yr adeilad gael ei ganiatáu am bris rhesymol. Y mae nifer fawr o’r milwyr eisoes yn y lle.”
Felly, roedd y gwaith i godi arian er mwyn gallu cynnal yr Eisteddfod ym Mangor yn 1915 wedi cychwyn, ond roedd llawer iawn mwy o waith i’w wneud er mwyn cyrraedd y nod. A thra ‘roedd y trafodaethau ariannol yn parhau, roedd y Pwyllgor yn parhau i drafod beth i’w wneud gyda’r holl drefniadau a oedd mewn lle ar gyfer Eisteddfod 1914.
Gan ohirio mor hwyr yn y dydd, roedd yr holl drefniadau llenyddol wedi’u gwneud ac roedd y gwaith ar gyfer yr arddangosfa gelf hefyd wedi dod i law. Yn wahanol i eleni, pan ohiriwyd yr ŵyl cyn i’r cyfansoddiadau gael eu hanfon at y beirniaid, roedd pob beirniadaeth wedi’i chwblhau ac wedi’u dychwelyd at y trefnwyr. Felly, roedd y beirniaid i gyd yn gwybod a oedd teilyngdod yn eu cystadlaethau hwy ai peidio. Diolch byth am amlenni dan sêl a ffugenwau, neu byddai’r holl broses wedi mynd yn rhemp!
Roedd yn rhaid sicrhau bod popeth yn cael ei gadw’n gwbl ddiogel heb eu cyffwrdd am flwyddyn gyfan, ac ar 22 Medi 1914, cyhoeddodd Y Genedl benderfyniad y Pwyllgor Gweithiol, “...yn yr adran lenyddol cedwir yr holl gyfansoddiadau a’r beirniadaethau dan sêl, yn yr ariandy hyd adeg yr Eisteddfod. Cedwir y cynhyrchion yn adran celf a gwyddor yn un o ystafelloedd Coleg y Gogledd, lle y cynhelir yr Arddangosfa.”
Penderfynodd y Pwyllgor barhau i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan, “yn y cystadlaethau lleisiol ac offerynnol, gan gynnwys corau a seindyrf... Derbynnir ymgeiswyr o’r newydd hefyd yng nghystadlaethau’r adrodd, a’r hollti llechi.”
Ond ar ddiwedd hyn oll, a oedd diwedd hapus i hanes Eisteddfod Bangor pan y’i cynhaliwyd yn y pendraw ym mis Awst 1915?
Mae’r ateb yn glir yn rhifyn 11 Awst 1915 o Y Cymro, “Yr oedd cysgod y rhyfel wedi bod yn gorffwys arni am flwyddyn, ac ni chododd y cwmwl yn ystod ei gweithrediadau. Yr oedd y rhaglen wedi ei darnio, a’r prif ornestau sy’n arfer tynnu’r miloedd i’r ŵyl, a’u dal dan eu cyfaredd yn y babell, wedi eu gwneud yn amhosibl gan gostau’r teithio tuag yno ar y rheilffyrdd. Nid syn deall fod y diffyg ariannol yn ymyl mil o bunnau (£116,000 heddiw). Ar y cyfrif hwn y mae cydymdeimlad dwfn a phobl Bangor, y rhai a wnaethant eu rhan yn rhagorol yn wyneb amgylchiadau anhawdd ac anfanteisiol iawn. Hyderwn y gellir trwy ryw foddion eu cynorthwyo os nad eu digolledu’n llwyr.”
Ac ar ben y golled ariannol, roedd cwyno hefyd am safon y cyfansoddiadau llenyddol, ar ôl i’r rheini gael eu cloi yn yr ariandy am flwyddyn. “Gresyn nad oedd iawn am y gwendid allanol yng ngwerth a theilyngdod gwaith meddyliol yr Eisteddfod. Buasai iddi gynhyrchu campwaith yn nydd ei chyfyngder yn gofgolofn ardderchog i’r Eisteddfod. Ond os nad oedd y Beirniaid eleni yn dioddef oddi wrth bruddglwyf ac anhwyl, prin yr oedd fawr o gamp ar ddim ymysg y cyfansoddiadau.”
Ond cyn digalonni’n llwyr, fe gafwyd un llwyddiant mawr, wrth i TH Parry-Williams ennill y Gadair a’r Goron am yr eilwaith, yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Wrecsam yn 1912, a chreu’r ‘dybl-dybl’ cyntaf, camp sydd wedi’i hailadrodd unwaith yn unig yn y ganrif ddiwethaf gyda llwyddiant Donald Evans yn 1977 a 1980.