Dr Llyr Roberts, Ysgrifennydd yr Eisteddfod. Llun Coleg Cymraeg Cenedlaethol
5 Awst 2023

Cyflwynwyd y deyrnged hon gan Ashok Ahir, Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol

Noswaith dda.  Rydw i am gychwyn drwy eich croesawu yma i Foduan, ac rydw i am i ni gyd ymuno i gofio am anwyliaid a ffrindiau rydyn ni wedi’u colli dros y misoedd diwethaf, ac yn anfon ein cariad a’n cofion at bawb yn eu colled.

Rai wythnosau’n ôl, ac ymhell cyn ei amser, fe gollon ni Llŷr Roberts, Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod ac yntau’n ddim ond 45 oed.  Rydw i’n gwybod bod nifer fawr ohonoch chi’n ei adnabod, ac roedd o, wrth gwrs yn un o’r criw o faswyr yn y côr. 

Roedd Llŷr yn llawer mwy na chydweithiwr i amryw ohonon ni, felly maddeuwch i ni am gynnwys ambell atgof personol am ein ffrind annwyl wrth i ni ei gofio.

O Lanrug roedd Llŷr yn dod.  Yno oedd ei gartref a’i wreiddiau am flynyddoedd, ond dros y misoedd diwethaf, roedd o wedi setlo yn Y Felinheli, ac yn gosod gwreiddiau dwfn a hapus yn ei gartref newydd gan edrych ymlaen at y dyfodol. 

Roedd o’n dipyn o gerddor o’r cychwyn; fe enillodd ei gwpan eisteddfodol gyntaf yn dair a hanner oed yn Eisteddfod Bentref Llanrug, a hynny am yr eitem gerddoriaeth orau. 

A dyma le y dechreuodd ei gariad at gerddoriaeth, a thrwy’r cariad hwn, daeth yn aelod o Bedwarawd Isca, a enillodd yn yr Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant, ac yna Côrdydd - a bu Llŷr Perfect Pitch yn canu yno am flynyddoedd. Eleni, roedd wedi ymuno gyda Chôr yr Eisteddfod, a’i rieni, John a Mary wedi ymuno â Chôr y Gymanfa.

Graddiodd Llŷr mewn Hanes Modern yng Ngholeg Oriel, cyn ymuno â’r Uned Wleidyddol yn y BBC yng Nghaerdydd, a hynny’n syth o’r coleg, a dyna pryd nes i ddod i’w adnabod.  Fe ymunodd â’r tîm, yn amlwg yn ddisglair, ond hefyd yn llawn hwyl, ac rydw i’n gwybod fod gan dîm bach S4C 2 atgofion melys iawn - a thipyn o straeon - am y cyfnod.

Roedd ganddo ddiddordeb mawr ym myd busnes ac yn arbennig yn y stryd fawr, a derbyniodd raddau MSc ac MBA gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.  Roedd i’w weld a’i glywed yn aml ar y radio a’r teledu yn siarad am fyd busnes. 

Bu’n gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac roedd yn falch iawn o’i ran yn natblygiad Canolfan ABC yn ystod cyfnod hapus yn ei yrfa, yn ysbrydoli ac annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu hefyd yn ddarlithydd cysylltiol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac ers mis Ionawr, roedd wedi cychwyn fel darlithydd rheolaeth yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor.  Y llynedd, derbyniodd radd PHD Prifysgol De Cymru mewn Masnach a Ffasiwn Moesegol, gyda chanmoliaeth fawr i’w waith.

Ymunodd Llŷr â Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod yn 2012, ac roedd o’n ffit berffaith i’n gwaith.  Roedd ganddo ddealltwriaeth o gystadlu, busnes, marchnata a lobïo, ac roedd ei gyfraniad wastad yn ychwanegu’n adeiladol at unrhyw drafodaeth. 

Pan ddes i’n gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2016, gyda dwy flynedd o waith o’m blaen, ro’n i mor falch o gael Llŷr ar y Pwyllgor Gwaith, gyda chyngor doeth a dealltwriaeth ardderchog o holl weithdrefnau’r Eisteddfod.  

Daeth yn Ysgrifennydd y Llys yn 2017 gan wneud gwaith arbennig ar y cyfansoddiad a’r rheolau sefydlog. Roedd yn uchel ei barch ac yn hael gyda’i amser, gan wneud popeth yn gwbl wirfoddol. 

Roedd e mor gefnogol pan ges i fy ethol yn Gadeirydd y Bwrdd Rheoli a Llywydd y Llys yn 2019, ac roedd ei gyngor wastad yn gytbwys a chall.  Ond doedden ni ddim bob amser yn cytuno, roedd Llŷr yn barod i herio os oedd angen ac mae hyn wrth gwrs yn beth iach ac yn rhywbeth y bydda i’n ei golli’n arw.

Ond dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn arbennig yn ystod y cyfnod clo, roedd y dynfa’n ôl i’w gynefin ac at ei deulu mor gryf.  A dyna ddaeth ag e’n ôl i ogledd Cymru ac i’w gartref newydd yn Y Felinheli.  

Roedd o wrth ei fodd yn cerdded Llwybr yr Arfordir, yn nofio, ac roedd fwyaf hapus yn cymdeithasu gyda’i deulu, ei rieni, ei chwaer, Lowri a’r teulu, oedd yn meddwl y byd o Yncl Llŷr.

Roedd Llŷr ar ei orau yn y cyfarfodydd olaf fis yn ôl, yn hwyliog, yn dreiddgar ac mor gefnogol ohonom ni fel Bwrdd ac o’r staff.  Mae’n anodd meddwl am gynnal cyfarfodydd hebddo, a fydd neb byth yn cymryd lle Llŷr ar y Bwrdd nac fel ein ffrind.  

Mae colli Llŷr wedi torri ein calonnau.  Mae bod yma yn yr Eisteddfod yr wythnos hon heb Llŷr yn eithriadol o anodd i amryw ohonon ni.

Fe fydd rhai ohonoch chi’n gwybod i ni golli Llŷr tra ‘roedd o ar ei wyliau, yn paratoi am yr Eisteddfod – yn paratoi ar gyfer y cyngerdd heno - yn dysgu’r geiriau a’r gerddoriaeth, ac yn mwynhau tri o’i hoff bethau ar y diwedd, teithio, cerddoriaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ogystal â chofio a cholli, mae’n rhaid dathlu ac yn cymryd y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r tîm lleol.  Cyfanswm y gronfa leol, y gwaith cymunedol ac addysg dros y blynyddoedd diwethaf, nifer y cystadleuwyr sy’n cymryd rhan, y rhaglen artistig cwbl ardderchog sy’n ein haros dros y dyddiau nesaf – ac mae’n bwysig hefyd ein bod ni’n cael wythnos gofiadwy yma ym Moduan gyda’n gilydd.

Rydw i am gloi, gyda englyn a gyfansoddwyd gan John, tad Llŷr ar gyfer ei angladd:

Yn hud Lesvos un noswaith, tawelwyd

dy alaw’n ei hafiaith,

a dwyn, wedi cyffro’r daith,

i orffwys dy draw perffaith.

 

Diolch i ti, Llŷr am bopeth.