Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Alison Cairns o Lannerchymedd
Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.
Cafodd 29 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r beirniaid oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Tudur Owen. Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Yn wreiddiol o’r Alban mae Alison Cairns yn byw yn Ynys Môn erbyn hyn ac yn fam i saith o blant, ac yn byw ei bywyd yn y Gymraeg. Dechreuodd ddysgu ein hiaith drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac mae’n siarad yn hyderus, a hynny heb iddi gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed.
Cymraeg yw iaith y teulu, ac mae Alison, sy’n gweithio ym myd gofal, yn sylweddoli pa mor werthfawr yw defnyddio ein hiaith wrth ddelio gyda chleifion. Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi’n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd. Bydd Alison a’i phartner, Siôn yn priodi yn yr hydref.
Cyhoeddwyd hyn ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, ddydd Mercher 9 Awst, a derbyniodd Alison Dlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli. Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r wobr yma hefyd yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.
Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.