Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i'r Athro Alan Shore, am ei gyfraniad hyd-oes i electroneg digidol a'r newidiadau pellgyrhaeddol ym myd cyfrifiaduraeth a chyfathrebu
Brodor o Dredegar Newydd, Cwm Rhymni yw Alan Shore. Graddiodd mewn Mathemateg o Goleg Iesu, Prifysgol Rhydychen ac yn ddiweddarach gyda Doethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd ym maes Ffotoneg.
Roedd dechrau'r 1970au yn gyfnod arwyddocaol yn gyfnod cyffrous mewn cyfathrebu wrth iddo wneud ei waith ymchwil. Roedd y cyfnod tra'n fyfyriwr yng Nghaerdydd hefyd yn arwyddocaol gan iddo ddechrau dysgu Cymraeg.
Bu'n ddarlithydd mewn Peirianneg Electroneg ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna ym Mhrifysgol Caerfaddon. Treuliodd gyfnodau ymchwil mewn labordai ledled y byd.
Tra'n gweithio yn Lloegr cadwodd gyswllt gyda gwyddonwyr yng Nghymru a chyfrannodd i gynhadledd Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Yn 1995 dychwelodd i Gymru i weithio pan gafodd ei benodi yn Athro mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor lle bu'n datblygu ei waith ar Ffotoneg ac Optoelectroneg.
Mae wedi ymdrechi i gweu'r Gymraeg tu fewn i'w waith ymchwil ac addysgiadol yn cynnwys bathu acronymau Cymraeg ar gyfer cynhadledd rhwngwladol (SIOE) a menter addysgiadol mewn ffotoneg ar gyfer myfyrwyr ysgol (PAWB).
Fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Ddysgedig Cymru, mae wedi arwain datblygiad polisi iaith y Gymdeithas ac wedi trefnu Darlith Eisteddfod y Gymdeithas.
Mae'n weithgar gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bu'n aelod o'r Grwp Ymchwil a Chyhoeddi y Coleg ers 2015. Bu hefyd yn aelod o Banel Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg a Chyfrifiadureg, gan eto sicrhau cefnogaeth a datblygiad ar gyfer y defnydd o Gymraeg yn y gwyddorau a chyfleon i astudio a chyhoeddi drwy'r Gymraeg.
Alan Shore oedd cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Wrth ei enwebu dywedodd ei gyfoedion: "Mae Alan yn wyddonydd o'r radd flaenaf sydd wedi cyhoeddi a chyflwyno gwaith ar Ffotoneg/Optoelectroneg yn eang a ledled y byd. Ond yn ychwanegol at hyn mae wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno a datblygu Peirianneg yng Nghymru a thrwy'r Gymraeg.
"Dyma faes nad sydd yn draddodiadol wedi bod yn flaenllaw yn y Gymraeg, a'r cam cynaf oedd meithrin ac annog cymdeithas o wyddonwyr yn Nghymru er rnwn gosod sylfaen i ddatblygu'r wyddor i'r Gymraeg."