Loteri Yr Eisteddfod

Cynllun Hapnod ar ei newydd wedd a chyfle perffaith i gefnogi’r Eisteddfod ac ennill gwobrau ariannol.

Sut mae’n gweithio

Am £5 y mis yn unig, byddwch yn derbyn rhif 6 digid unigryw i’w gynnwys yn y tyniad bob wythnos.  Cyfrifiadur sy’n dewis y rhifau bob wythnos, a gallwch gael mwy nac un rhif 6 digid – er mwyn cynyddu’ch siawns o ennill! 

Os yw'ch archeb banc wedi dod i ben ar ddyddiad y tyniad yna bydd unrhyw wobr ariannol yn cael ei hychwanegu at gronfa gwobrau'r loteri.  

Cefnogi’r Eisteddfod

Bydd hanner yr arian yn mynd tuag at drefnu gweithgareddau’r Eisteddfod, a’r hanner arall yn cael ei rannu fel gwobrau bob wythnos.  Felly, byddwch yn ein helpu ni i gynnal a datblygu’r Eisteddfod – a chael siawns i ennill gwobr.  

Sut i ymaelodi

Lawr lwythwch y daflen PDF ar y dudalen hon, ei chwblhau a'i hanfon atom:

Eisteddfod Genedlaethol Cymru,

40 Parc Ty Glas,

Llanisien,

Caerdydd   

CF14 5DU

 

Taflen Ymaelodi â'r Loteri Lawrlwytho