Cadair 2018

Y Cysyniad

Rydym yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Caiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy gystadleuaeth farddol fwyaf yr Eisteddfod, a gynhelir ym Mhontypridd 3-10 Awst 2024. Ysgol Llanhari sydd yn noddi Cadair yr Eisteddfod yn 2024, ac felly yr Ysgol fydd yn cytundebu’r ymgeisydd llwyddiannus maes o law.

Y Gadair yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, a dylai’r dyluniad a’r gwneuthuriad fod o’r safon uchaf. Mae’n symbol a ddefnyddir mewn seremoni gyhoeddus a gynhelir ar y llwyfan mawr ger bron miloedd o bobl ar ddydd Gwener yr Eisteddfod, ac felly bydd angen i’r dyluniad terfynol a gyflwynir cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith (Hydref 2023).

Meini prawf dylunio

Dathlu tirwedd, diwylliant a hanes yr ardal gan ystyried hefyd yr elfen amgylcheddol wrth greu o’r newydd.   

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn nodi bod angen cynnwys y canlynol yn y dyluniad:

• /|\ Y Nod Cyfrin. Dylid ei osod mewn lle amlwg ac urddasol

• Enw swyddogol yr Eisteddfod sef: 

Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Peidiwch â chynnwys geiriau eraill ar y Gadair

• Dylai’r Gadair gael ei chwblhau erbyn 5 Ebrill 2024

/|\ Y NOD CYFRIN

Mae’r Nod Cyfrin /|\ neu Nod y Pelydr Golau yn symbol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli Cariad, Cyfiawnder a’r Gwir. Fodd bynnag, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddim defnydd o’r symbol, ac ni ddaeth yn fwyfwy poblogaidd tan ar ôl ei farwolaeth. Fe’i gwelwyd yn gyntaf ar y Sgrôl Gyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833: erbyn 1850, gellid ei weld ar faneri’r gorseddau ac o tua 1860 ar dystysgrifau aelodau newydd. Erbyn diwedd y ganrif fe’i hystyrid yn symbol cymeradwy Gorsedd y Beirdd, ac ymddangosodd ar ei rhaglenni, ar y faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar Gerrig yr Orsedd. Erbyn y 1950au, penderfynwyd bod yn rhaid cynnwys y symbol ar bob un o Gadeiriau a Choronau’r Eisteddfod. 

Camau cyllidebol a phrosiect

Y gyllideb ar gyfer dylunio a chreu’r Gadair yw hyd at £3,000 (+ TAW os yw’r dylunydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW), i’w dalu mewn tri rhandaliad o dderbyn anfoneb:

  • Cam 1 – Gweledigaeth a chynllun ddrafft a chymeradwyaeth gan yr Ysgol a Bwrdd yr Orsedd: Taliad o 33% ddiwedd Hydref 2023
  • Cam 2 – Ymweliad â phlant yr ysgol a datblygu cynllun gan ddechrau arni: Taliad o 33% ddiwedd Rhagfyr 2023
  • Cam 3 - Cwblhau’r Goron: taliad olaf ar ôl ei chyflwyno’n orffenedig a’i chymeradwyo gan y Ysgol a’r Eisteddfod ynghŷd â lluniau swyddogol, 5 Ebrill 2024

Amserlen

  • Rhaid cyflwyno’r cais cyn 17:00, 13 Hydref 2023
  • Cynhelir cyfweliadau’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ar ddydd Llun 16 a/neu Mawrth 17 Hydref 2023
  • Bydd angen i’r weledigaeth gychwynnol a chynllun ddrafft fod yn barod erbyn y cyfweliad 
  • Bydd y cynllun ddrafft angen cael ei gymeradwyo gan yr Ysgol a Bwrdd yr Orsedd ddiwedd Hydref 2023
  • Wedi hynny bydd gofyn i’r gwneuthurwr ymweld â phlant ac athrawon yr ysgol i drafod y cynllun ddrafft a’i ddatbylgu gyda hwy fel rhan o’r broses. 
  • Bydd angen i’r Gadair gael ei chwblhau’n llawn erbyn 5 Ebrill 2024 

Sylwer y bydd gofyn i’r gwneuthurwr gadw cofnod digidol o’r gwaith creu, er mwyn gallu hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol drwy gydol y cyfnod llunio. Yr Eisteddfod yn ganolog, ac nid y gwneuthurwr, fydd yn cysylltu efo’r cyfryngau. 

  • Y dyddiad i’w chyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a’r lansiad i’r wasg yw canol Mehefin 2024 (bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol)
  • Dyddiad y Cadeirio yw dydd Gwener 9 Awst 2024
  • Gofynnir i’r gwneuthurwr ddarparu lluniau amrywiol safonol i’r Eisteddfod, unwaith i’r Gadair gael ei chwblhau ar gyfer Rhaglen y Dydd a hyrwyddo cyffredinol (5 Ebrill 2024)

Sut i ymgeisio

Danfonwch eich cais mewn e-bost at Catrin Rowlands - catrin.rowlands@llanhari.cymru yn Ysgol Gyfun Llanhari cyn 17:00, 13 Hydref 2023

Dylai gynnwys y canlynol:

  1. Enw llawn a manylion cyswllt
  2. Bywgraffiad, gan gynnwys enghreifftiau graffigol (e.e. brasluniau, ffotograffau) o waith blaenorol
  3. Cynnig gweledigaeth/ cysyniad mewn llai na 500 gair, a chynllun/dyluniadau. Rhaid cynnwys delweddau yn y rownd gyntaf gan egluro’r cynllun ddrafft, y defnydd o’r deunyddiau (y feddylfryd amgylcheddol), ysbrydoliaeth ac yn y blaen.
  4. Datganiad eich bod ar gael am gyfnod y prosiect ar ei hyd gan gynnwys ymweliad â’r Ysgol 
  5. Dadansoddiad o’r gyllideb amcangyfrifiedig o flaen llaw
  6. Manylion cyswllt dau gleient blaenorol a allai ddarparu geirda

Caiff ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i wneud cyflwyniad 10 munud o hyd ar Zoom/Teams, a chymryd rhan mewn trafodaeth fer gyda phanel fydd yn cynnwys panel o’r Ysgol ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig a/neu Reolwr Cystadlaethau yr Eisteddfod Genedlaethol, 16/17 Hydref 2023. Gofynnir iddynt hefyd gyflwyno datganiad ariannol byr drwy e-bost cyn y cyfarfod.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch â Catrin Rowlands - catrin.rowlands@llanhari.cymru yn Ysgol Gyfun Llanhari neu ffoniwch 01443 237 824 a gofyn am Catrin