Cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen ar y tudalen nesaf, ystyriwch y pwyntiau isod yn ofalus os gwelwch yn dda:
- Mae gan bob aelod o’r Orsedd yr hawl i enwebu / eilio hyd at 2 berson yn flynyddol i'w hystyried gan Bwyllgor yr Urddau ar gyfer eu hurddo er Anrhydedd yn yr Orsedd.
- Ni ddylai neb enwebu / eilio perthynas agos.
- Ni ddylai'r enwebyddion na’r rhai sy’n eilio grybwyll eu bod yn gwneud hynny wrth yr enwebai, gan nad yw pob enwebiad yn llwyddiannus.
- Y Gymraeg yw iaith yr Orsedd; rhaid i bob aelod fedru’r Gymraeg.
- Yn ystod y seremoni bydd gofyn i’r sawl a urddir dderbyn anogaeth yr Archdderwydd i anrhydeddu celfyddyd ac amddiffyn y Gymraeg.
- Disgwylir i’r sawl a urddir ymaelodi yn Llys yr Eisteddfod os nad yw eisoes yn aelod.
Cyn dechrau llenwi’r ffurflen, cofiwch:
- y bydd angen nodi manylion cyswllt personol yr enwebydd a’r eilydd.
- y bydd angen nodi manylion cyswllt personol yr enwebai.
- ein bod yn derbyn nifer fawr o enwebiadau bob blwyddyn, felly mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen yn ofalus, gan egluro sut y mae’r enwebai yn cwrdd â’r gofynion a restrir ar y tudalen nesaf; rhowch gymaint o fanylion perthnasol â phosib.
- ysgrifennu pwyntiau cryno gan ddefnyddio’r cyfrif geiriau mor effeithiol â phosib.
- mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 28 Chwefror. Ni allwn dderbyn enwebiadau hwyr.
- ystyrir yn ofalus yr holl enwebiadau gan Banel yr Urddau, sef is-bwyllgor o Fwrdd yr Orsedd, a chyflwynir ei argymhellion i Fwrdd yr Orsedd i’w derbyn neu wrthod.
- y bydd yr enwebiadau llwyddiannus yn clywed gennym tua dechrau mis Mai, ac yn cael eu derbyn i’r Orsedd mewn seremoni yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.