GWRES
ceisio
Do, dw i wedi chwarae bloc 123,
cau’n llgada, cyfri a chwilio.
Dw i wedi dal pob symudiad,
gweld pob sŵn
ac edrych mewn biniau ailgylchu
(mae fanno’n lle da gyda llaw).
Es inna ar fy nghwrcwd dan lwyn eithin,
plygu’n gynfas mewn basged olchi,
sleifio i’r tŷ
a gorwedd dan y gwely.
Ia, torri rheolau’r gêm yn racs.
Er i mi gael cip ar gysgod,
clywed clec asgwrn brigyn a thisian dail,
byddai yn llithro
o fy ngafael
fel taswn i ddim i fod i’w ddal
ac yn rhedeg ar wib
o fy mlaen
at bostyn y giât.
Diflannu.
A finnau o fewn cyrraedd.
A’r hyn sy’n rhyfedd,
dw i’n dal i chwarae’r gêm.
ymweld
Weithiau rwyt ti yn fanna,
yng nghanol fy nhalcen.
Bwlsai.
Fanno oeddet ti wrth i mi ddreifio adra neithiwr
a dyma weiddi amdanat,
ymbil,
erfyn
i ti fod reit wrth fy ymyl.
Fory falla na fyddi di’n taro’r canol llonydd.
Dim fel ’na ma petha’n gweithio, nage,
a dw i wedi dysgu byw efo hynny.
gras
‘Ti’n lwcus. Byw lle rwyt ti.’
Os ti’n dweud.
Cloddiau sŵn traed plant ac olwynion coij, yn ddail ceiniog y gors a golau briallu, yn fynd sydyn clychau’r gog ac oglau piws mwyar duon, yn helmedau moch coed ac yn gŵn du efo bariau giatiau yn sgyrnygu yn eu cegau nhw.
Dau gam i fyny’r lôn mae Llwybr y Pererinion yn fôr o wynebau sy’n dal i fynd, yn dal i fynd fel sŵn tonnau ar raean. Pobol sy’n gweld sglein pryfaid genwair mewn pyllau, rhoi mwythau i’r gorwel a gwenu pan mae beltiau pelydrau’r haul yn hongian ar gôt law yr awyr.
Ond fan hyn ydw i, yn fy slipars.
Mond dau gae i ffwrdd.
puro
Maen nhw’n darogan codi gwynt.
Mae’r deiliach rhwng craciau’r wal wedi dechrau crynu,
brigau pen ucha’r coed yn sgwennu rhybuddion ar e-byst y cymylau
ac mae’r haul wedi symud i fyw, eto.
Dyddiau tannu dillad ogla cadw.
adnod
Drwy’r coed weli di’r soser syrcas o haul yn crynu?
Un gangen yn dal y golau.
Bydd yn dangos ei hun toc a dweud
‘Yli clyfar ydw i’n gallu dal y pwysau i gyd!’
Clownio a gwirioni
cyn malu’n deilchion yn y clawdd a ’ngadael i chwilio
am y tegins yn y bore.
gwybod
Fel hyn fydd hi rŵan mae’n siŵr;
deffro
a thithau’n gwisgo’r dydd amdanaf a galw’r brain i nythu yn fy ngwallt.
Arlwyo matiau Tregwynt ar fy mwrdd gwag, estyn y llestri
a’m dodi efo nhw wedyn yn dafell rhwng y platiau yn y peiriant.
Wrth fy nghwt o hyd ac wedi i mi osod tân,
fy rhoi i orwedd dan briciau’r tŵr jenga.
Ond waeth ti heb. Wnaiff ’na ddim byd newid.
Ti’n dal i bydru mlaen ond yli di, dw i’n gwybod fod o’n aros.
Fancw.
Amdana i.
iawn
Chwilio rhy galed am yr ateb wnaeth hi radag honno
wrth daro ei bysedd bach eto ac eto ar sgwariau’r ddesg.
Yn bedair oed roedd hi fod i fethu cyfri.
‘Fedri di ddim gneud syms drwy’r nos,’
geiriau cysurlon mam.
A hithau’n hŷn, dysgodd
beidio troi i gefn llyfr a dysgu’r ateb ar ei chof
a bod athrawon yn chwarae triciau budur wrth neidio rhesi a newid trefn cwestiynau.
Bu’n hir yn dallt bod hi’n oce i gael pethau’n rong –
byw efo’r cwestiynau oedd hi fod i wneud, dim ffendio’r atebion
a bod duw ddim yn lecio gwneud syms.
nabod
Does dim rhaid i chi ddweud un dim.
Does dim rhaid i chi dynnu’ch sgidiau.
A does dim rhaid i chi ddod â dim byd efo chi chwaith –
dim blodau, dim papur newydd, dim tun peaches na carnation milk.
Ond ddewch chi ddim yn waglaw.
Tydach chi’n gwybod am gyfrinachau drôr y gegin,
yn gwybod yn iawn fod mwy na chotiau wedi’u taflu i’r twll dan grisiau
a bod hi’n anodd ’mestyn cnesrwydd o silff uchaf y cwpwrdd eirio.
Ar ôl cyrraedd y drws cefn
byddwch yn camu dros y trothwy,
yn rhoi bys ar y teciall,
estyn am y bag te a’r mg
(yn union fel tasech chi adra)
ac yna’n cerdded drwy’r tŷ,
yn pasio’r stydi fach,
y parlwr a’i soffa felen feddal
ac yn mynd ar eich hyll drwadd
i’r stafell ben draw
am mai fanno fydd hi.
cymun
‘Glywsoch chi am “y gawod wynt”?’ meddai’r gŵr gwadd yn ei bregeth Gŵyl Dewi.
Cyflwyno’r ‘pethau bychain’ oedd o.
‘Y gawod lwyd,’ meddwn i yn syth bin
ac yn yr un funud fach honno
dyma gofio’r garddwr;
teimlo’i lygaid
yn ’morol bod fy nhraed ar ddaear
a fy mysedd yn tendio’r pridd.
A dyma glywed ei eiriau yn golchi’r llwydni
a gadael y dail yn leision lân.
cyhoeddiadau
Fuest ti’n fama rhyw dro,
mae ôl ista ar y clustog melfed.
Wsdibe mae’r jwg piwtar
yn y cwpwrdd dal gwydrau cymun o hyd.
Ti wedi sylwi ar y tyllau yn nwylo’r gadair dan y pulpud,
a bod y gofalwr newydd ddim yn hwfro’r carped
na gosod blodau plastig?
Ti ’di gweld dy bobol –
tu mewn mae eu briwiau nhw,
tu mewn sy’n trio’u gorau i llnau’r brasys
a pholisio’r canwyllbrennau ar y silff ben tân.
Eto, fedra i ddim peidio meddwl rywsut
fod rhywbeth hardd yn y pethau hyn,
bod tlysni mewn pobol
sy’n gwybod y gwnaiff Duw
godi llwch o’r sgyrtins.
A dyna pam eu bod nhw’n sbio’n ffeind
ar garped wedi raflio a chlustogau wedi breuo
am eu bod, mae’n siŵr,
yn gweld ôl dwylo
ac ôl traed arnyn nhw,
ôl teimlo’n saff
er bod y drws tu nôl iddyn nhw
wedi cau.
penlinio
Hyd yn oed yn fan hyn.
Mewn llofft sy’n aros am ddodrefn a llenni,
mae’n meddwl y gall ddringo’r grisiau atat ti.
Ti’n dweud dim.
Gwranda.
Aros.
Does dim promtio,
does dim sgript.
Mae hi’n dallt tawelwch.
Tyrd o’r cysgodion, o’r congla.
Un ystum, un osgo mae hi angen.
Mae dy seibiadau di’n rhy hir.
A fedar hi ddim dygymod efo hynny heno.
purdan
Beth?
Ai dweud wyt ti mai rhwbath fel hyn fydd y daith i Annwn?
Codi tocyn, dilyn saethau a gyrru rhwng waliau a phileri concrit
i’r tu mewn llwyd yma.
Mi fydda i wedi cael practis parcio!
Ai ti neu fi fydd yn dweud ‘Mae lle yn fancw,’
ai fi fydd yn agor y drws
a gwrando ar y goriad yn canu grwndi rhwng y ceir gwag?
Fel hyn ti’n parcio eneidiau?
Ac mae gen i hen deimlad
y byddi’n sbio drwy dwll yn y to
arna i’n cerdded efo ’maglau a’r bagiau gwag am y drysau otomatig
ac yn fy ngweld yn dallt fod ceg pob lifft ar gau.
Mi weli’r panic fod dim signal ffôn
a’r codi pwys am fod y peiriant talu wedi nogio
ac yna, mi weli di fi’n sylwi
ar y dagrau yn dripian drain
a’r pwll yn gwaedu dan fy nhraed.
llond pob lle
Mae o yna. Yn sêr gwlyb ffenestri’r teras, yn y sgrin deledu fawr sy’n fflachio am dri y pnawn. Yn y bwrdd dartiau ar wal llofft yn Craven Arms, yn hances boced stafelloedd consyrfytris, yn nwylo angylion concrit, yn olwynion beics un gardd ac yn eirlysiau yr ardd drws nesa, yn y potiau plastig brown hyll sy’n ’mestyn yr holl ffordd o’r cwt golchi i’r ffens derfyn, yn yr un car mewn cae, dan darpolin glas rhandiroedd, yn ei dwylo hi sy’n ysgwyd cynfasau yng nghanol glaw, yng nghyrls mwg simneiau, mewn llgada sgai-laits, ar ofyrols hen ffens yn Llwydlo. Ac mewn tyllau ffenestri ffatrïoedd.
Mae o fancw efo’r genod ysgol y medri di bario eu colur yn groen tatws llaeth.
Ac mae o efo chdi a dy fysedd Pringles BBQ sy’n pigo’r blewiach dan dy ên.
Iawn oce, dw i’n gwbod mai dim ond taith trên ydy hi.
Rhaid mi gallio.
Diolch byth fod y traciau wedi hen arfar cario straeon.
ddoe
Roedd y môr yn brifo jest wrth i mi sbio arno fo. Hyd yn oed ar ddiwrnod braf a’r tonnau’n sigl-di-gwt yn yr awel gynnes, mae’n gallu bod yn hegar. Mae ’di hen arfer ’fo’r drefn, y bagio nôl-dwrn, bagio nôl-dwrn. Dyrnu dyrnu dyrnu fy nhu mewn ond wnaiff o ddim fy nghleisio i. Mae’n ormod o foi i hynny. A dw inna yn gneud dim, mond dal i sbio, yn rhy llwath i allu neud dim mond gadal iddo a waeth mi heb achos fel ’na mae hi, fel ’na fydd hi a newidith petha ddim.
heddiw
Mae basged ger y drws.
Bob hyn a hyn bydd yn ei gwagio,
codi’r criai pry genwair o’r gwiail,
tynnu hen hosan o dwnnel esgid,
ysgwyd y pridd o rychau’r gwadnau,
a pharu’r pentwr
yn sodlau a slipars,
yn fŵts a sgidiau rhedeg
a’u tywys at ei gilydd eto.
Ac yno fydd hi am ennyd
gyda’r pentwr llonydd
yn aros am un ddaw
yn nhraed ei sanau
am y drws.
dameg
Glöyn byw
yn taro tudalennau ei adenydd
ar wydr y ffenest
a’r geiriau’n
olau lamp
yn y dyddiau duon bach.
eiliad
Paid â mynd. Paid â mynd heb ddweud dim.
Paid cadw’n dawel am y murmuron a’r eiliad cymryd gwynt
ac iaith tawelwch sy’n llithro i’r distawrwydd tu draw.
Paid mynd heb ddweud am y bluen eira mewn machlud haul.
Paid mynd heb rannu a dweud dy fod ti’n gwybod. Fod ’na nabod. Bod llygaid yn clywed a chlust yn gweld.
Paid mynd heb sôn am y mudandod sy’n dal geiriau,
paid mynd heb sôn am yr haul tu hwnt i’r haul a’r awel rhwng yr awelon.
Paid mynd heb sôn am yr anadl gynnes tu cefn i ti pan ti’n golchi llestri, yn tannu dillad ac yn chwynnu’r border.
Paid mynd heb sôn am y llonydd-dra byw sy’n dod atat weithiau
yn ddisymwth, yn annisgwyl, yn ddigymell.
Cyn iddi fynd yn rhy hwyr a chdithau wedi mynd, cofia ddweud.
Samiwel