Seremonïau'r Orsedd Heddiw

Cynhelir chwe seremoni Orseddol bob blwyddyn:

Cyhoeddi’r Eisteddfod ganlynol: Rhaid cynnal y seremoni hon o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn yr Eisteddfod.  Cyflwynir copi o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd gan gadeirydd y pwyllgor lleol, ac yn dilyn hyn, mae’r rhestr yn gyhoeddus ac ar gael i unrhyw un sy’n awyddus i gystadlu.  Erbyn heddiw, defnyddir cerrig symudol os nad oes Cylch yr Orsedd hygyrch yn yr ardal.

Bore Llun: Dyma’r seremoni gyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod.  Mae hon yn un o ddwy seremoni lle yr urddir a chroesewir aelodau newydd i’r Orsedd.  Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, yn derbyn y Wisg Werdd fore Llun, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.  Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir y seremoni ar Faes yr Eisteddfod, ac yn aml defnyddir y cerrig symudol os nad oes cerrig gwreiddiol wrth law.

Prynhawn Llun: Dyma seremoni gyntaf yr Orsedd ar lwyfan y Pafiliwn, seremoni’r Coroni.  Yr Archdderwydd sy’n llywio’r seremoni pan anrhydeddir un o brif feirdd Cymru am gerdd neu gyfres o gerddi rhydd (heb gynghanedd).  Mae’r Orsedd i gyd ar lwyfan y Pafiliwn ac mae’r enillydd yn cael ei hebrwng i’r llwyfan gan osgordd arbennig fel rhan o’r seremoni.  Mae enw’r enillydd yn gyfrinach tan y’i cyhoeddir gan yr Archdderwydd ar ôl iddo / iddi gyrraedd y llwyfan.

Prynhawn Mercher: Dyma’r ail seremoni ar lwyfan y Pafiliwn, sef urddo’r Priflenor, neu seremoni’r Fedal Ryddiaith.  Dilynir trefn debyg i brynhawn Llun gyda’r Archdderwydd yn llywio’r seremoni.  Unwaith eto, mae enw’r enillydd yn gyfrinach tan iddo / iddi gyrraedd y llwyfan.

Bore Gwener: Mae hon yn seremoni a gynhelir yn yr awyr agored os yw’r tywydd yn caniatáu hynny, a dyma’r cyfle i groesawu rhagor o aelodau newydd i’r Orsedd.  Fel arfer, y rheiny a urddir er anrhydedd sy’n cael eu derbyn i’r Orsedd fore Gwener, ac mae’r rhain yn cynnwys unigolion o bob rhan o Gymru a thu hwnt sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig.  Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.  Cyhoeddir enwau y rheiny a fydd yn derbyn yr anrhydedd yn ystod mis Mai.

Prynhawn Gwener: Dyma seremoni olaf yr wythnos, pan wobrwyir enillydd Cadair yr Eisteddfod.  Cynhelir hon ar lwyfan y Pafiliwn, ac mae’r adeilad yn aml yn orlawn, er mwyn darganfod pwy sydd wedi ennill – os oes teilyngdod.  Unwaith eto, dilynir trefn debyg i brynhawn Llun a Gwener, ac fel rheol, mae’r llwyfan yn llawn o aelodau’r Orsedd sy’n awyddus i fod yn rhan o’r seremoni hon ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod.  Yn aml, bydd y rheiny a urddwyd yn y seremoni fore Gwener yn awyddus i fod ar y llwyfan fel rhan o'r Orsedd yn y prynhawn.