Wrecsam oedd cartref yr Eisteddfod yn 1912, a chyda rhaglen swmpus yn costio chwe cheiniog i’w phrynu, roedd hysbysebwyr o bob math yn awyddus i’w nwyddau a’u gwasanaethau ymddangos yn y gyfrol boblogaidd hon. Dyma sut roedd pawb yn cynllunio’u hymweliad â’r Eisteddfod yn ystod y cyfnod cyn y we, teledu na radio, ac roedd busnesau a chamnïau’n gweld y rhaglen fel ffordd ardderchog o gyrraedd cynulleidfa bwysig.
Ychydig iawn o gwmnïau neu fusnesau oedd yn dewis defnyddio’r Gymraeg, er bod hysbysebu yn y rhaglen yn ffordd o gyrraedd cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Roedd nifer o’r hysbysebion ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn gwerthu pob math o drugareddau – o blatiau a tseina i friciau a glo – a’r cyfan ar gael gan fusnesau lleol yn nalgylch yr ŵyl.
Efallai mai hysbyseb mwyaf amlwg y cyfnod yw tudalen gefn rhaglen 1912, hysbyseb ar gyfer Wrexham Lager Beers - cwmni lleol yn cefnogi’r ŵyl genedlaethol yn eu hardal hwy, meddech chi? Efallai wir, ond ar y pryd, ac am bron i ganrif arall, ‘doedd dim bar ar y Maes, a dim ffordd o brynu peint o lager nag unrhyw ddiod feddwol arall. Ond, roedd golygyddol y rhaglen yn fwy na pharod i gymryd arian hysbysebu gan wneuthurwyr alcohol yn y cyfnod dirwestol hwn, lai na deng mlynedd yn dilyn y Diwygiad Mawr, yn 1904.
Un o ddigwyddiadau mawr y byd yn 1912 oedd trychineb y Titanic, a laddodd gannoedd o deithwyr ar eu ffodd i America. Mae’n deimlad od gweld hysbyseb ar gyfer perchnogion y llong, White Star Line a chwaer long y Titanic, HMS Olympic yn rhaglen yr Eisteddfod, ac mae’n codi’r cwestiwn a oedd yr hysbyseb wedi’i osod cyn taith y Titanic? Mae’r cwmni’n tynnu sylw at y ‘wireless telegraphy, orchestra and unsurpassed comforts’, ond does dim sôn am y Titanic ei hun yn yr hysbyseb.
Hugh Evans a Gwasg y Brython oedd yn gyfrifol am argraffu rhaglen yr Eisteddfod am flynyddoedd. Un o fusnesau Cymraeg Lerpwl oedd Gwasg y Brython, ac roedd y cwmni hefyd yn gyfrifol am un o bapurau newydd amlycaf y cyfnod, Y Brython.
Byddai’r cwmni’n treulio cryn amser yn casglu hysbysebion ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod bob blwyddyn. Roedd rhestr testunau Eisteddfod Caernarfon 1921 yn cynnwys hysbyseb tudalen lawn, yn galw ar gwmnïau a busnesau i osod hysbysebion, gan nodi bod y rhaglen yn “An exceptionally effective medium to advertise in, and one in which you make your appeal to a thoughtful class of people, and one from which satisfactory results are assured.”
Mae’n amlwg fod y ac roedd ganddyn nhw’n gallu i sicrhau hysbysebion gan rai o gwmnïau mawr y cyfnod. Roedd hysbysebion gan fusnesau amlwg fel Fry’s Chocolate a Jacob’s Cream Crackers yn ymddangos yn rheolaidd, ynghyd â hysbysebion gan sefydliadau fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a oedd yn cynnig cyrsiau am ffi o £13 1s y flwyddyn, gyda chostau labordy’n ychwanegol.
Mae enwau rhai o ddarlithwyr y coleg ar y pryd yn adnabyddus i ni oll, yn arbennig felly i gyn-fyfyrwyr y brifysgol, gyda John Morris Jones, HR Reichel a JE Lloyd ill tri yn dysgu yn y coleg bryd, ac sydd â’u henwau’n dal yn fyw ar wahanol adeiladau yn y ddinas heddiw.
Yn 1914, newidiodd y byd. Cafodd Cymru, fel rhan helaeth o’r byd, ei heffeithio’n ddirfawr gan y Rhyfel Mawr. Bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor am flwyddyn, ac mae Eisteddfod Penbedw, 1917, Eisteddfod y Gadair Ddu, yn un o ddigwyddiadau enwocaf Cymru, gan fod Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, wedi’i ladd ar faes y gad ychydig wythnosau cyn y Brifwyl, ac yntau wedi ennill y Gadair. Roedd y rhyfel yn rhan o fywydau pawb, ac yn cyffwrdd â phob elfen o gymdeithas.
Ond, ni welwyd hyn yn yr hysbysebion ar gyfer rhestr testunau a rhaglen yr Eisteddfod am beth amser. Roedd yr hysbysebion arferol, yn arbennig rhai lleol, wedi parhau i ymddangos drwy gydol y rhyfel. Yn wir, doedd dim byd allan o’r cyffredin yn yr hysbysebion yn rhestr testunau Eisteddfod Y Barri, 1920 (a gyhoeddwyd flwyddyn ynghynt), gyda nifer o hysbysebion ar gyfer siopau dillad, cylchgronau, cerddoriaeth a phianos yn ymddangos.
Ond daeth newid mawr erbyn cyhoeddi’r rhaglen gwta flwyddyn yn ddiweddarach, gydag amryw o hysbysebion yn hyrwyddo cynnyrch na fyddai wedi’i weld ychydig flynyddoedd ynghynt. ‘A boon to the lame’ meddai un ohonyn nhw, wrth hysbysebu coesau a breichiau artiffisial. Mae’r cwmni JJ Stubbs & Son o Gaerdydd, yn datgan, “The motions and actions are as near like a natural foot as possible, no springs, bolts etc., to get out of order. The yielding and elastic qualities of rubber supply requisite motion; avoid all jars to the stump when walking; absolutely noiseless.”
Mae cwmni Allen Pearce, hefyd o Gaerdydd, sy’n ‘Artificial Limbs and Surgical Appliance Makers’ yn cynnig “Artificial legs; light weight and durable; crutches with non-slipping ends; trusses with or without steel bands”, ac “Artificial eyes: Patent mobile, snellen and shell patterns”.
Roedd gwneuthurwyr cerrig beddau wedi hysbysebu yn y rhaglen yn achlysurol dros y blynyddoedd, ond mae un llinell ar hysbyseb John Fletcher Limited, Monumental Works, Carnarvon, yn tynnu’r llygad yn rhestr testunau 1921, ‘Contractors to HM Government’, a oedd yn datgan a dangos fod y cwmni’n un o’r rheini a oedd yn cynhyrchu cerrig beddau ar gyfer milwyr yng Nghymru a thu hwnt. Newid byd yn wir o hysbysebion am ddillad a hetiau, caffis a gwestai a oedd i’w gweld fel rheol yn rhaglenni’r Brifwyl.
Hwn oedd cyfnod hysbysebion baco, rhywbeth na fyddai’n cael ei weld yn agos at unrhyw raglen na rhestr testunau erbyn heddiw. Roedd cwmni Thomas Nicholls & Co. o Gaer yn hysbysebu’n rheolaidd am flynyddoedd yn ystod y cyfnod hwn, yn gwerthu Nicholls Union Jack Shag, gan ddatgan ‘Critical Smokers say: Should be in everyone’s mouth”’. Ac roedd E Morgan a’r Gwmni, Amlwch yn gwerthu’u cynnyrch gan ddefnyddio’r slogan “Gore Baco – Baco Amlwch: Nid oes eu rhagorach i smocio a’u cnoi”.
Yn aml, byddai hysbysebion am gotiau a hetiau ffwr i’w gweld yn y rhaglen, yn enwedig pan oedd yr ŵyl i’w chynnal mewn ardal fwy trefol. Roedd cwmni R Neill & Son Ltd. o Lerpwl yn hysbysebu’r rheolaidd, ac erbyn heddiw, mae’u hysbyseb o raglen Eisteddfod Lerpwl 1929 yn ymddangos yn hynod o ddi-chwaeth. Cartŵn ydyw o gwningen yn sefyll y tu allan i siop y cwmni yn edrych drwy’r ffenestr ac yn wylo wrth weld yr hetiau ffwr drudfawr, gan ddweud “Alas, my poor brother”.
Mae llawer iawn o’r cwmnïau hyn wedi diflannu erbyn hyn, ac mae’n ddiddorol nodi rhai o gyfeiriadau’r busnesau pan gyhoeddwyd y rhaglenni, ac edrych i weld beth sydd yno ar y strydoedd hyn erbyn heddiw. Newid byd gwirioneddol yn aml, gyda chynifer o gwmnïau a busnesau wedi diflannu. Ond mae ambell hysbyseb yn parhau i fod yn berthnasol ac yn wir, bron i ganrif yn ddiweddarach. Roedd y Daily Post yn hysbysebu’n rheolaidd yn y rhaglen yn ystod y 1920au, ac yn datgan ‘Eisteddfod - you will find detailed reports every day in the Liverpool Daily Post’. Yn bendant, ‘dyw rhai pethau byth yn newid!