Rydym yn byw mewn cyfnod pan mae’n bwysicach nag erioed i ni fod yn gwerthfawrogi a pharchu gwaith y rheini sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, ac mae’n amlwg fod y sgiliau allweddol yma hefyd yn chwarae rhan bwysig yn hanes yr Eisteddfod.
Roedd yr Adran Ambiwlans yn hynod boblogaidd gyda nifer fawr yn cymryd rhan mewn pob math o gystadlaethau, ac roedd gwobrau da i’w hennill am ddod i’r brig am drin gwahanol glwyfau ac am ddangos gofal arbennig i gleifion.
Ac roedd y cystadlaethau hyn ar eu hanterth yn ystod y 1950au, gan ddenu timoedd o bob oed ac o bob rhan o Gymru. Un o’r timoedd yma oedd criw Urdd Sant Ioan, Bangor, tîm a gafodd gryn lwyddiant yn y cystadlaethau cymorth cyntaf a nyrsio yn y cartref yn ystod y cyfnod hwn.
Bu aelod o’r tîm, Julie Lewis, o Fangor, yn rhannu’i hatgofion am y cystadlaethau a’r cyfnod. Meddai, “Roedden ni’n ifanc iawn yn cystadlu, ac roedden ni’n eithaf llwyddiannus hefyd, yn ennill cwpanau, tariannau ac yn y blaen. Roedd y cystadlaethau’n gyfle i ni deithio o amgylch Cymru, oedd yn gyffrous iawn ar y pryd, ac roedden ni’n mwynhau cymryd rhan yn y cystadlaethau.
“Dwi’n dal i gofio dipyn go lew o’r sgiliau roedden ni’n eu dysgu - er bod ‘na flynyddoedd lawer wedi pasio erbyn hyn. Roedd y cystadlaethau’n realistig iawn - fe fydden ni’n cyrraedd damwain neu ddigwyddiad a gorfod asesu popeth a phawb cyn penderfynu sut i drin y ‘cleifion’.
“‘Doedden ni ddim yn cael symud y cleifion, ond yn hytrach ein cyfrifoldeb ni oedd gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gorwedd yn y safle cywir, eu bod nhw’n dal i anadlu a’u bod nhw’n gyfforddus. Roedd o’n union fel dod ar draws damwain ‘go iawn’ ar y ffordd neu ar safle.
“Roedden ni’n cymryd yr holl beth o ddifrif. Roedd ‘na griw da o genod yn rhan o’r tîm. ‘Doedden ni i gyd ddim yn yr ysgol efo’n gilydd. Rhai yn yr ysgol ramadeg ac eraill yn yr ysgol ar Ffordd Deiniol, ond roedden ni’n gymaint o ffrindiau - yn deall ein gilydd ac yn ymddiried yn ein gilydd. Roedd rhaid i ni er mwyn gallu gweithio a llwyddo fel tîm. Roedden ni’n ymarfer dwywaith neu deirgwaith bob wythnos, ac yn ymddwyn yn gwbl broffesiynol pan oedden ni’n mynd ati i gystadlu.
“Roedd ‘na bwyslais mawr ar ein gwisgoedd – yr iwnifform. Roedd ein ‘sgidiau a’n botymau ni’n gorfod sgleinio, ac roedden ni’n gorfod startsio coleri a’n cyffiau ni’n ofalus cyn unrhyw gystadleuaeth. Wrth gwrs, roedd rhaid i ni startsio ein ffedogau hefyd a’r rheini’n gorfod bod yn hollol wyn! Ac roedden ni’n cael ein marcio ar hyn – roedd sut roedden ni’n edrych yr un mor bwysig â’r gofal roedden ni’n gallu’i gynnig a’n gwybodaeth ni am gymorth cyntaf! Dipyn o waith, ond wrth edrych yn ôl, roedd yn gyfle i ddysgu gwers bwysig ar gyfer y dyfodol a’r byd gwaith.
“Mae edrych ar y lluniau yma wedi dod â llu o atgofion yn ôl. Roedd o’n gyfnod braf, yn gyfnod pan oedden ni’n tyfu i fyny, ac roedd cymryd rhan mewn pethau fel hyn yn help i ni aeddfedu, a chael cyfle i gymdeithasu mewn cyfnod lle ‘doedd ‘na ddim gymaint o ryddid i bobl ifanc. Dwi mor falch mod i wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r tîm ac i gael y fath brofiadau ar draws Cymru.
“Mae’r lluniau hefyd yn dod ag atgofion trist. Gweld wynebau’r genod sydd wedi ein gadael ni - Razya ac Anne - ond mae’n bwysig cofio ac edrych nôl ar y gwmnïaeth, y cyfeillgarwch agos rhwng y tîm a’r hwyl o gael mynd i gystadlu a chymryd rhan, ac wrth gwrs, fel mae’r llun yma’n ei ddangos - y llwyddiant! Dyddiau da!”