Dyluniodd benseiri Stride Treglown, Ysgol Bae Baglan ar gyfer dod ag ysgolion cyfun Cwrt Sart, Glanafan a Sandfields ac Ysgol Gynradd Traethemelyn ynghyd er mwyn darparu ysgol ar gyfer disgyblion o 3 i 16 oed. Erbyn hyn mae’n cynnig lle i 1,100 disgybl uwchradd a 300 disgybl cynradd ynghyd ag adnoddau integredig llawn ar gyfer 100 disgybl gydag anghenion dysgu ychwanegol, ar safle 15 hectar.
Mae gan yr ysgol dair adain ddysgu sy’n cysylltu’n uniongyrchol â gofod canolog mawr. Yn ogystal, mae dwy uned ddysgu annibynnol er mwyn caniatáu cynnydd mewn niferoedd a datblygu pellach yn y dyfodol. Mae’r gofodau dysgu a’r gofodau cymdeithasu, ill dau, wedi’u dylunio er mwyn hybu addysg sy’n cael effaith cadarnhaol ar ymddygiad, agwedd a llesiant.
Yn ogystal, mae’r ysgol yn agored i’r gymuned ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, cymdeithasol a chwaraeon.
Mae Ysgol Bae Baglan yn brosiect hynod gynaliadwy, sydd wedi ennill gradd Ragorol BREEAM a thystysgrif A am berfformiad ynni. Mae dros 2,000 medr sgwâr o banelau ffotofoltaidd ar y to a chasglwr solar mawr sy’n cynhesu’r aer o flaenllaw er mwyn cynhesu’r neuaddau chwaraeon a gostwng y costau cynnal.
Yn dilyn cystadleuaeth agos gyda dylunwyr tri phrosiect arall yng Nghymru, rhoddir
Y Fedal Aur am Bensaernïaeth i benseiri Stride Treglown, Caerdydd. Dyfernir y wobr gan yr Eisteddfod Genedlaethol gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru ac ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW).
Meddai Carole-Anne Davies, prif weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Fe ddylai rhagoriaeth mewn dylunio ac adeiladu ar gyfer yr ystâd gyhoeddus fod yn ddiofyn amdani, heb sôn am amgylcheddau dysg lle bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu ffurfio.
“Fe ddylai sicrhau gwerth cyhoeddus fod yn flaenoriaeth yn nhermau adennill ar fuddsoddiadau o gyllid cyhoeddus.
“Fel yn achos iechyd, rhaid i’r ystâd addysg, sydd a chymaint o effaith ar gyfleon bywyd ein plant a’n cymunedau, arwain yn y maes. Mae gweledigaeth y cleient a chydweithrediad y tîm dylunio ynghyd â’r cyfle i greu cymuned sy’n cyd-dynnu, yn ysbrydoledig ac wedi ffurfio cnewyllyn datrysiad dyluniad beiddgar.”
Bydd y pedwar prosiect gyrhaeddodd restr fer y Fedal Aur yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 4 – 12 Awst. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys ffotograffau o bob adeilad gan James Morris ynghyd â barddoniaeth gan Elain Grug Muse.
Meddai’r detholwr a’r pensaer Gwyn Lloyd Jones o Studio Egret West, ynglŷn â’r cynllun buddugol: “Mae Ysgol Bae Baglan yn cyfuno dyhead mawr i uno cymuned leol gyda datganiad pensaernïol deinamig.
“Wedi ei leoli ar safle gwastad, mae ffurf y to yn cyfleu siâp y bryniau sy’n ei amgylchynu gan ei wneud yn atyniadol a chroesawgar. Mae’r ystafelloedd dosbarth yn helaeth ac mae ganddynt ddigonedd o olau naturiol tra bod gan goridor hir yr ysgol ffurf gromlinog a naws chwareus.
“Y gobaith yw y bydd yr adeilad yn dod yn ganolbwynt ar gyfer datblygiad hirdymor yr ardal ac yn helpu dwyn y gymuned ynghyd.
Meddai cyfarwyddwr RSAW, Mary Wrenn: “Gydag Ysgol Bae Baglan, mae’r penseiri Stride Treglown wedi creu syniad o le go iawn ag iddo amlygrwydd lleol. Yn enwedig yr echel ganolog odidog ar gyfer gofodau aml-ddefnydd, sy’n darparu man ymgynnull a chymdeithasu braf, yng nghalon yr ysgol. Mae hon yn enghraifft nodedig o ymrwymiad ac ymwneud penseiri profiadol a chleient goleuedig â’i gilydd.
Y prosiectau eraill a roddwyd ar y rhestr fer ar gyfer Y Fedal Aur am Bensaernïaeth oedd Ysgol Uwchradd Y Rhyl gan AHR; CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd) gan IBI a Silver House, Bro Gŵyr gan benseiri Hyde + Hyde.