Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

Mae’r artist yn hanu o Galiffornia ond wedi hen ymgartrefu yn y brifddinas. Tra arferai weithio gyda chlai, mae hi bellach yn defnyddio papur argraffu syml, siarcol a phaent.

Gwahoddwyd yr artist Carwyn Evans a’r curaduron Ceri Jones a Jessica Hemmings i ddethol yr Arddangosfa Agored a dyfarnu’r gwobrau. 

Yn ôl Carwyn Evans, “Mae gwaith yr artist yn rhoi gwledd i’r llygad ar unwaith - dramatig a chai, glân, dilychwin, newydd – nid oes teimlad o hanes yn y gwaith ac nid ydym yn ymwybodol ym mha ofod amser yr ydym. Mae edrych yn hir am gyfnod yn annog ei ddatgeliad gan wneud ei adeiladwaith yn glir ac yn ein hatgoffa bod y gwrthrych celf yn bodoli o ganlyniad i weithredoedd a berfformiwyd ar ddeunyddiau – gwirionedd syml unrhyw waith celf.”

Ac meddai Ceri Jones: “Mae’r cyfuniad o faint, proffil a pherthnasoldeb yn gydlynus a hudol.  Mae estheteg yn y gwaith hwn sydd, i mi, yn cyseinio â cherfluniau seramig Cecile ddegawd yn ôl. Ei hastudiaeth o ffurf a lleoli dyna ydyw, ei osgo tawel mewn gofod.”

Atega Jessica Hemmings:  “Mae’r chwilfrydedd diatal y mae Cecile wedi’i ddwyn i ddeunyddiau mor sylfaenol - papur a phaent du - yn ein gwneud yn wylaidd. Mae’n gwneud i gymaint o’r anhrefn gweledol o’n cwmpas ymddangos fel tactegau tynnu sylw. Astudiwch rywbeth. Unrhyw beth. Mae gwybod o ddifrif sut y gellir profi a chwestiynu a phrofi eto rywbeth mor gyffredin yn atgoffa rhywun yn hyfryd nad oes dim yn ddiflas. Byth.”

Yn ôl Cecile Johnson Soliz, mae hi wedi ei swyno gan ddarlunio. “Rwy’n tynnu lluniau gyda siarcol ar bapur ac yn creu lluniau mewn dull mwy corfforol a cherfluniol gyda phapur a deunyddiau eraill megis defnydd a gwifren. Rwy’n eu cyfuno a’u gosod ynghyd er mwyn creu perthynas, gyda’i gilydd, a gyda gofod yr arddangosfa.

“Rwy’n sylwi ar weithrediadau a symudiadau sy’n rhan o fywyd bob dydd - clymu, rhwymo, gwasgu, rholio, gwthio, plygu, plethu… mae’r rhain i gyd yn tynnu sylw at brosesau cyffredin, syml, dyddiol sydd wrth law – sy’n ymwneud â chyffwrdd a ‘chreu pethau’.

“Mae gen i chwilfrydedd ynglŷn â’r agwedd gorfforol a chysyniadol sydd ynghlwm â chreu celf. Gall y ddwy elfen gydweithio mewn ffordd ryfeddol a hudolus. Mae’n gyffrous ystyried sut mae paentio, braslunio a cherflunio yn cydberthyn a sut y gallwn ni greu sgwrs rhwng gwrthrychau drwy’r modd y maent wedi’u gosod,  hongian, sefyll, pwyso, gwasgu wrth rannu gofod mewn arddangosfa.”