Penderfynodd ei rhannu rhwng pedwar artist. Bob blwyddyn mae’r artist yn rhoi £600 am waith yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Ac eleni dyma benderfynu bod Peter Davies, Peter Finnemore, Pete Telfer a Christine Mills yn ei haeddu.
“Roedd y dewis yn anodd,” meddai Ifor Davies, “ac yn y pendraw penderfynais fod pedwar artist yn haeddu’r wobr am resymau gwahanol fel petai pob un yn deilwng o’r £600. Er, nid yr arian sy’n bwysig ond y ffaith fod ganddyn nhw egni a chryfder unigryw ac yn sefyll ar eu pennau’u hunain. Mae pob un ohonyn nhw’n enillwyr teilwng.”
Hwyrach mai ‘‘Y Gorchudd Llwch’ gan Christine Mills a ‘Gwers 56 - 59’ Peter Finnemore oedd y gweithiau mwyaf amlwg i’w gwobrwyo. A hithau’n ganmlwyddiant Eisteddfod y Gadair Ddu yn Birkenhead daeth marwolaeth Hedd Wyn yn symbol o golli cenhedlaeth o Gymry ifainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gan gadw hwn mewn cof aeth Christine Mills ati i gasglu gwlân yn Nhrawsfynydd a’i olchi yn nŵr ffynnon yr Ysgwrn, cartref y bardd (Ellis Humphrey Evans) (1887 - 1917) a’i foldio ar ffurf y gadair. Mae’r gorchudd ffelt fel pe tai’n ymbil am heddwch. Yna, mae’r fideo hir o ffotograffau a dynnwyd gan Peter Finnemore yn atgoffa rhywun o agweddau’r gorffennol a rhai lled ddiweddar i Gymru a’i phobl. O bosteri a thudalennau o lyfrau hanes i doriadau papur newydd, stampiau a deunydd print amrywiol, mae’r delweddau yn cyfeirio at agweddau sy’n amrywio o ddirmyg, diystyrwch ac anghwrteisi tuag at leiafrif.
Yn ogystal, tynnwyd sylw Ifor Davies at ‘Goroesiad’ Peter Davies a ‘4 Lleuad’ Pete Telfer - ill dau yn aelodau o’r grŵp artistiaid Beca - grŵp a’i fryd ar gyflwyno materion Cymreig i gelf Cymru.
Er, efallai nad yw portread torso noeth dyn ifanc wedi’i argraffu ar wydr gyda phlat metal wedi’i folltio arno yn ddewis amlwg. Hwyrach, meddai, er bod ‘Goroesiad’ yn ymdrin â gormesu rhywioldeb ac nid Cymru a’r Gymraeg yn uniongyrchol, mae Peter Davies yn haeddu clod. “Prin y mae ei waith yn ymddangos yn yr Eisteddfod,” meddai Ifor Davies, “ac i mi, mae’n cynrychioli gwaith blynyddoedd lawer yn sefydlu un o’r mudiadau celf pwysicaf a mwyaf ymroddgar yng Nghymru ac,efallai gwledydd Prydain, yn ail hanner yr 20fed ganrif. (Sefydlwyd Beca gan Peter Davies a’i frawd, y diweddar Paul Davies yn 1970au.)
Fel ei gyd aelod yn grŵp Beca prin iawn ydi Pete Telfer yn arddangos yn yr Eisteddfod y dyddiau hyn chwaith. Mae ei fideo fyfyriol yn dangos gweddau’r lleuad wrth iddi symud ar draws y ffurfafen. “Mae e wedi bod yn rhoi o’i amser i ffilmio a chofnodi gwaith artistiaid yng Nghymru ers yr 1980au,” meddai Ifor Davies. “Ac erbyn hyn mae ganddo’r archif fwyaf a phwysicaf o gyfnod arwyddocaol a ffurfiannol yn ein celf. Mae Pete Telfer un yn o’r ffigurau mwyaf pwysig, ond eto anweledig ym myd celf Cymru. Sut arall y mae ei anrhydeddu a’i annog ar ganol ei yrfa? Mae gwaith Pete Telfer yn dangos bod celfyddyd Cymru yn llwyddo i gyrraedd y rhagoriaeth ryngwladol uchaf nid drwy ddynwared mudiadau Americanaidd neu ryngwladol eraill ond drwy fynnu bod yn hi ei hunan a thynnu ar brofiadau sy’n gyfarwydd i bawb.”
Pan enillodd Ifor Davies Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2002, penderfynodd ddefnyddio’r wobr ariannol er mwyn sefydlu ei wobr ei hun. Er bod yr arian gwreiddiol wedi hen ddod i ben, mae’n parhau i ddyfarnu Gwobr Ifor Davies. Erbyn hyn mae cyhoeddi enw’r enillydd yn un o uchafbwyntiau gweithgareddau’r Lle Celf.
“Sefydlais y wobr er mwyn ailgylchu’r arian enillais i yn yr un ysbryd â'r lluniau gafodd eu harddangos y flwyddyn honno,” meddai. “Roedd hwn yn ffordd o gyflawni neu hyrwyddo un o'm uchelgeisiau ar gyfer iaith,diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ym myd y celfyddydau gweledol.
“Mae'n bwysig i ni gofio, neu beidio ag anghofio, bod y pethau hyn yn fyw nawr – mae lledu’r posibiliadau o gadw’r cof, yr iaith a’r diwylliant yn fyw yn ein dwylo ni.”