Rydyn ni eisiau clywed gan ddysgwyr o bob rhan o Gymru - a'r byd - sy'n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd - yn eu cymuned, yn y gwaith neu gyda'r teulu.
Mae Dysgwr y Flwyddyn yn gystadleuaeth ar gyfer dysgwyr dros 18 oed, sy'n cael ei chynnal gan yr Eisteddfod ar y cyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Diddordeb? Ewch ati i gwblhau'r ffurflen hon - a chofiwch gall dysgwyr enwebu eu hunain hefyd.
Dyddiad cau: 1 Mai 2025
Cynhelir y rowndiau cyn-derfynol yn rhithiol yn fuan ar ôl y dyddiad cau, a byddwn yn cysylltu â phawb gyda manylion llawn mewn da bryd.