Baner ar y Maes

Amcanion yr Eisteddfod yw, er budd y cyhoedd yng Nghymru a ledled y byd:

 (i) hyrwyddo addysg y cyhoedd yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru, y gwyddorau a’r iaith Gymraeg; a

(ii) hyrwyddo, cadw a diogelu treftadaeth a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, drwy unrhyw ddull a modd a wêl yr ymddiriedolwyr yn dda yn cynnwys trwy gynnal gŵyl genedlaethol yn flynyddol, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Hoffech chi gael llais am beth sy’n digwydd i’r Eisteddfod Genedlaethol?  Oes gennych chi syniadau am sut y gall yr Eisteddfod ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf? 

Ydych chi am weld ein gŵyl yn ffynnu yn y dyfodol?  Os felly, beth am ymuno â Llys yr Eisteddfod?

Pwy sy'n gymwys?

Mae’r Llys yn agored i unrhyw un sy’n credu yn amcanion yr Eisteddfod, sef hybu a hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant drwy drefnu a chynnal yr ŵyl. 

Gall unrhyw un wneud cais i ymuno â Llys yr Eisteddfod am £15 y flwyddyn, neu gellir talu am aelodaeth oes am £100.

Pryd mae'r Llys yn cyfarfod?

Mae'r Llys yn cyfarfod yn flynyddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gyda gorolwg dros waith Cyngor yr Eisteddfod, a thrwy hynny, yr Ymddiriedolwyr.

Mae'n ffordd dda o fod yn rhan o weithdrefnau'r Brifwyl ac yn gyfle i leisio barn ar bynciau sy'n ymwneud â dyfodol a datblygiad ein gwyl genedlaethol. 

Ymaelodwch heddiw drwy gwblhau'r ffurflen isod:

Cyfeiriad