eISTEDDFOD
6 Maw 2024

Gyda 150 diwrnod i fynd, mae cynlluniau ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi'u rhyddhau!

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal rhwng 3-10 Awst. 

Mae cynlluniau’n dangos lleoliad Eisteddfod 2024, sy’n cynnwys:

  • Y Maes: Parc Ynysangharad, Pontypridd;
  • Maes B: Ysgol Uwchradd Pontypridd;
  • Maes Carafanau a Gwesylla: Tir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cwblhau’r cynllun ar gyfer safle’r ŵyl, ac yn edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth gyda phawb dros y misoedd nesaf, wrth i ni baratoi i groesawu pawb i’r ardal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.