Gydorseddogion ac Annwyl Gyfeillion

Waeth beth yw ein barn am hynodrwydd yr Orsedd, all neb lai na chydnabod symbolaeth y cwbl sydd ynghlwm â hi. O safle pob un maen a charreg i liwiau’r gwisgoedd a chyfarchion ei seremonïau, mae arwyddocâd i bopeth. Ac fel pawb, rwy’n siŵr, a safodd fan hyn o’m blaen i, bûm i’n pendroni’n hir am ystyr yr arwyddion hyn.

Coron: torch o ddail y dderwen, a honno’n goron dros dro, tair blynedd, cyn y caf ei gosod ar ben un arall a ddaw drwy enwebiad – ac etholiad os oes angen – i’m holynu. Diolch am ei hymddiried ynof am y tymor hwn.

Dwyfronneg Gwirionedd: ceisio Gwirionedd yw ein tarian ni i gyd.

Teyrnwialen Cyfiawnder: arwydd mai Chwarae Teg fydd ben, a ninnau’n deyrngar i’r egwyddor honno.

Fel y faner a holl wobrwyon yr Orsedd, mae’r fodrwy yn ein hatgoffa o belydrau llygad Goleuni, a’r Awen sy’n rhoi ei chyfoeth i’n prifwyl ni.

A’r Cleddyf wedyn. Cleddyf na bydd fyth yn cael ei dynnu o’r wain. Cleddyf Heddwch felly. Arwydd o’n dyhead ni i weld diwedd ar ryfel a thrais.

Ac mae’r dyhead hwnnw’n fawr heddiw. Boed ‘i’r iawn bwyll arwain y byd’ ddwedodd Iolo. Ac o’n gorsedd heddwch ni yn Wrecsam, rydym ni, bobl gyffredin Cymru, yn galw ar bobl gyffredin y byd i wrthod syniadau’r arweinwyr sy’n gofyn am fwy o gleddyfau a bomiau a thaflegrau, ac yn dweud ‘digon yw digon’. 

A’r cylch. Cylch yr Orsedd. Nid triongl na phyramid. Nid ffurf sy’n awgrymu trefn ‘yr-ychydig-ar-y-top-a’r-llawer-ar-y-gwaelod’; ond cylch sy’n arwydd ein bod ni i gyd yn gyfartal. A mwy na hynny, cylch agored ag adwy iddo, heb na iet na llidiart. 

Byddaf yn gwneud fy ngorau i gario’r arwyddion hyn yn fy meddwl a’m calon.

A sôn am galon, mae cywydd croeso Siôn Aled yn datgan fel hyn:

 

’Y mae aelwyd ym Maelor

â stomp o groeso yn stôr’,

 

‘Stomp!’ Llond calon o groeso!

Diolch ichi, bobl ardal Wrecsam, Ceiriog, Clywedog, Dyfrdwy, Alun a Maelor am y fath groeso. Pob pentref a chwmwd, pob stad a ‘stryt’ - a dyna’r gair ffor’ hyn – pawb yn gweithio dros Eisteddfod 2025. Ac enwau eich ardaloedd yn ein hatgoffa ni, os ydym ni’n agos at y ffin, rydym ni hefyd yng nghanol Cymreictod hen a newydd.

Dyma ddarn o ardd Cymru – yr Iâl nid yr anial - sy wedi rhoi cymaint o gymeriadau nodedig inni. A thiwns! Ble fyddai Caneuon Ffydd heb Arwelfa a Rhosymedre?

A sôn am ffydd, dyma sut mae’r cywydd yn disgrifio’r Eisteddfod: ‘gwledd ein ffydd’.

Gyfeillion, yn nannedd bygythiadau i gymaint o’n sefydliadau iaith Gymraeg ni, mae angen ffydd.  Ffydd – batris y galon – a’r galon, yn ei thro yn gronfa gobaith.

A’m gobaith i yw y byddwn ni’n gweld cydweithio llawen rhyngom. Dyna sydd ei angen yn wyneb argyfwng – nid ymgecru ymhlith ein gilydd. Dyma’r amser i roi gobaith ar waith; yr egni radical hwnnw sy’n fwy na chroesi bysedd; yr egni sy’n ein gwthio i ddychmygu’r lle gwell a’r ffordd i’w gyrchu.

Ac mae’r cywydd, fel mae’n digwydd, yn sôn am obaith hefyd – gobaith sgorio gôls. Ac rwy’n deall nad oes rhaid curo Stockport heddiw … ond byddai’n eitha’ neis!

Pan ddaeth yr Eisteddfod i Wrecsam yn 1933, roedd Taid William Hopwood, Coedpoeth, yn cymryd rhan yn y ddrama Pobun – cyfieithiad T Gwynn Jones o waith Hugo von Hoffmansthal. Clifford Evans oedd y prif gymeriad, hwnnw aeth ymlaen i serennu yn y Prisoner a’r Avengers a’r Saint. Un o Senghennydd oedd e’n enedigol. Un o Rondda Cynon Taf.Dyma gloi felly wrth eich gwahodd yn daer i ddod am dro i’r De ym mis Awst i gefnogi ein cyd-Gymry yno wrth iddynt baratoi chwip o Eisteddfod ar ein cyfer.

Dewch i mewn i sŵn y Gymraeg a rhoi faint bynnag o Gymraeg sy gyda chi ar waith. 

Mae’r daith a’r gwaith yn galw.