Mae Lido Ponty yn unigryw yng Nghymru. Yr atyniad hanesyddol i'r teulu yw prif bwll awyr agored Cymru.
Am ddiwrnod arbennig i'r teulu, dewch i ailfyw hwyl y dyddiau gynt.
Mae yma dri phwll nofio – prif bwll, pwll gweithgareddau a phwll sblash. Heb os, mae Lido Ponty yn cynnig cyfleoedd nofio gwych i bawb o bob oed a gallu.
Pris tocyn yw £3 (ynghyd â ffi archebu o 25c) ar gyfer oedolion. Mae tocynnau i blant 16 oed ac iau am ddim (ond mae'r ffi archebu yn dal i fod yn berthnasol).
Mae modd i ymwelwyr brynu tocyn gweithgareddau am £2.50 ychwanegol. Bydd modd i chi fwynhau'r cwrs rhwystrau teganau gwynt, cychod padlo Aqua Peddlerz a'r 'Water Walker'. Mae modd i chi brynu tocyn gweithgareddau ymlaen llaw neu yn y dderbynfa ar ddiwrnod eich sesiwn.
Mae'r pwll sblasio wedi'i anelu at ymwelwyr llai. Mae ganddo ffynnon ymbarél y byddan nhw'n dwlu arni.
Mae deiliaid tocynnau'r Eisteddfod yn cael cyfle i brynu tocynnau i Lido Ponty.
Noder: Mae angen tocyn maes Eisteddfod ar yr un diwrnod â thocyn Lido Ponty.