Arwydd Eisteddfod ar Faes 2023
Sut alla i archebu tocyn i'r Eisteddfod?

Mae tocynnau ar werth ar ein gwefan. Cliciwch yma i archebu.

Faint o'r gloch mae'r Maes yn agor a chau?

Mae’r Maes yn agor am 08:00 a ‘does dim mynediad i unrhyw un ar ôl 21:00, hyd yn oed os oes gennych chi docyn.  Os ydych chi’n bwriadu dod atom gyda’r nos, dewch yn gynnar, oherwydd dydyn ni ddim yn hoffi gwrthod mynediad i unrhyw un, ond bydd rhaid gwneud hynny ar ôl 21:00.

Oes tocynnau am ddim ar gael i ofalwyr?

Mae tocynnau am ddim ar gael ar gyfer cynorthwy-wyr personol.  Os oes gennych chi gynorthwy-ydd neu os ydych chi’n dod gydag ymwelydd sydd angen cymorth, cofiwch ddod â thystiolaeth gyda chi i’r Maes er mwyn derbyn tocyn am ddim. Rydyn ni'n derbyn y canlynol:

  • Tudalen Flaen Lwfans Byw i’r Anabl / Taliad Annibyniaeth Bersonol (dim cyfradd benodol)
  • Tudalen Flaen llythyr Lwfans Gweini (dim cyfradd benodol)
  • Tystiolaeth o fod wedi cofrestru â nam difrifol ar y golwg (dall)
  • Cerdyn ID Cydnabyddedig ar gyfer Cŵn Cymorth
  • Cerdyn Mynediad CredAbility

Gallwch archebu tocyn ofalwr ar-lein cyn cyrraedd.

Rydw i'n anabl - a yw'r swyddfa docynnau'n hygyrch?

Ydy, mae'r swyddfa docynnau ar y Maes yn hygyrch. Mae rhai ffenestri isel, sydd yn addas i bobl mewn cadeiriau olwyn. Yma hefyd mae sustem “loop” er mwyn cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed, a bydd hyn yn eich helpu wrth brynu tocynnau.

Gallwch brynu tocynnau yn y brif fynedfa neu ar-lein cyn cyrraedd.

Pris tocyn

Oedolyn (19-65 oed) - £23 (ton cyntaf £21)

Pensiynwr (66+ oed) £22 (ton cyntaf £19)

Person Ifanc (16-18 oed) £18 (ton cyntaf £16)

Plentyn (5-15 oed) - £12 (ton cyntaf £10)

Plentyn o dan 5 oed - Am ddim

Teulu: 1 Oedolyn, 2 o Blant - £35 (ton cyntaf £30)

Teulu: 2 Oedolyn, 2 o Blant - £58 (ton cyntaf £50)

Tan pryd mae tocynnau bargen gynnar ar gael?

Mae tocynnau bargen gynnar ar werth o  3 Mawrth tan 14 Mehefin. Ar ôl y cyfnod hwn gellir prynu tocyn pris llawn ar-lein neu yn y brif fynedfa yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Rydw i'n aros ym Maes B. Ydw i'n gallu defnyddio fy nhocyn i ddod i'r Maes?

Ydych – mae ein tocyn pobl ifanc ni’n fargen arbennig o dda, ac yn rhoi mynediad i’r Maes, Maes B a’r gigs ac yn docyn gwersylla. Mae tocynnau Maes B yn rhoi mynediad i’r Maes o ddydd Mawrth ymlaen.

Ydw i'n cael mynd i Maes B gyda thocyn Maes?

Na, mae’n rhaid prynu tocyn ar wahan i fynd i Faes B (os nad oes gennych chi docyn ieuenctid).